Mae Daf y gath yn esgus bod yn weinidog a rhedeg plwyf. Mae hi wedi cymryd lle Dewi Sant, yr hwn oedd yr Esgob am anfon i ffwrdd oherwydd ei adroddiad damniol. Mae Daf yn cael lot o hwyl. Mae hi’n gwneud i’w chynulleidfa ganu emynau newydd am fwyd cathod. Mae hi wedi newid Cân…
Month: May 2023
583: Gwisg gath
Gan fod Daf y gath wedi cael ei hanfon i ffwrdd i redeg plwyf arall yn lle Dewi Sant, mae rhaid i Dewi wisgo gwisg gath, rhag ofn i’r Esgob droi lan. Mae e’n edrych yn hollol dwp. Mae Jeff y gath, sydd yn hapus iawn i gael gwared ar ei chwaer am sbel, yn…
582: Adroddiad damniol
Mae Daf y gath yn darllen adroddiad yr Esgob am Dewi Sant, sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Un damniol yw’r adroddiad. Mae’r adroddiad yn cyhuddo Dewi Sant o bob math o bethau. Mae cant y cant o’r cyhuddiadau’n wir. Mae’r Esgob am anfon Dewi i blwyf arall ymhell i ffwrdd. Nid yw Dewi am…
581: Llestri
Mae Daf y gath wedi dod o hyd i lestri ac arnyn nhw’r geiriau “Carolus Rex”. Mae llun o’r Brenin Mawrglustiau a’i geffyl arnyn nhw hefyd. Mae Jeff y gath wedi dod o hyd i lestri ac arnyn nhw’r geiriau “Fyny gyda’r Chwyldro Sosialaidd”. Mae llun o ryw dad-cu hudolus neu’i gilydd arnyn nhw. Mae…
580: Normalrwydd
Mae Daf y gath yn edrych ymlaen at damaid bach o normalrwydd wedi holl ffair coroni’r Brenin Mawrglustiau. Mae hi’n cerdded ling-di-long o gwmpas yr ardd a bwyta llond llaw o laswellt bob hyn a hyn, gan ei bod hi’n paratoi pêl wallt ysblennydd. Does neb yn gwneud dim byd twp heddiw. Am syndod! Mae…
579: Cyngerdd Coroni
Mae Daf y gath yn parhau i wylio digwyddiadau’r coroni ar y teledu. Cyngerdd coroni sydd ar y bocs nawr. Mae perfformwyr diflas yn puteinio eu hunain o flaen y Brenin Mawrglustiau a’i geffyl. Dyma rywun ar y llwyfan oedd yn enwog yn y chwedegau. Mae e ar fin marw, ac mae e’n swnio fel…
578: Partïon stryd
Tra bod Dewi Sant, Jeff y gath ac Owain Glyndŵr yn Llundain, mae Daf y gath yn adfer o’i chur pen yn sied Dewi o hyd. Fel gweddill y byd, mae hi wedi gweld llanast o berfformiad yr enwog Owain Glyndŵr ar y teledu. Does neb yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddo fe ers…
577: Y Digwyddiad Mawr
Mae pawb yn aros yn yr eglwys gadeiriol i’r oedfa gychwyn. Mae miliynau o bobl yn llythrennol wedi cael eu gwasgu i mewn i’r hen adeilad. Does neb yn gyffyrddus. Mae Dewi Sant a Jeff y gath yn gwawdio enwogion wrth i Owain Glyndŵr geisio cofio beth mae e i fod i’w wneud. Colandr. Morthwyl….
576: Ciwio
Mae ciw enfawr y tu allan i’r eglwys gadeiriol. Mae pobl o bedwar ban y byd yn ciwio. Gŵyl ciwio yw’r coroni, fel unrhyw ddigwyddiad brenhinol. Does dim angen ar yr enwog Owain Glyndŵr giwio, gan fod gwahoddiad gyda fe. Ond ynfytyn yw e, felly mae e’n mynnu ymuno â’r ciw. Dyma’r Tywysog Moelben! Am…
575: Traffordd
Mae Owain Glyndŵr yn eistedd ar fws ar y draffordd yng nghwmni Jeff y gath a Dewi Sant. Mae e’n gwisgo arfwisg, yn gynnwys tun rhostio sydd braidd yn ddrylliedig. Mae e wedi dod â cholandr a’i forthwyl, rhag ofn. Mae Jeff wedi peintio baner Glyndŵr ar ffrynt ei arfwisg, a llun o’r Esgob yn…
