Mae’r staff wedi mynd i’r siopau. Maen nhw wedi prynu anrheg i’r cathod. Canolfan hamdden amryliw i gathod yw’r anrheg, gyda llawer o weithrediadau er mwyn eu diddori nhw. – Beth yw hwnna? meddai Daf y gath, heb ddiddordeb. – Sai isie fe, meddai Jeff y gath, a bant â hi. Saesneg / English Present…
Month: May 2023
593: Mynd am dro
Mae hi’n heulog heddiw. Mae Santes Dwynwen am fynd â Daf y gath am dro ar dennyn, gan ei bod hi wedi gweld fideos amdani ar y rhyngrwyd. Am syniad neis. Mae Santes Dwynwen mor garedig. Mae Daf y gath yn gwrthod y syniad yn llwyr. Yn gyntaf, mae hi’n crafu dwylo Santes Dwynwen wrth…
592: Busnes fideos, rhan 3
Mae Daf y gath yn cuddio o dan ei fan, rhag ofn i’r Esgob ei chosbi hi. Ond mae’r Esgob am gosbi Dewi Sant achos taw fe yw cynhyrchwr y fideos sensitif. Ond mae Jeff ei chwaer yn gwylio’r tân gwyllt gyda phaced o bopcorn. Mae’r Esgob yn tynnu drws sied Dewi Sant oddi ar…
591: Busnes fideos, rhan 2
Mae Daf y gath yn bwriadu gwerthu tapiau fideo er mwyn ennill bach o arian. Mae hi wedi casglu fideos Betamax Dewi Sant i gyd mewn bagiau plastig a’u llwytho nhw ar ei fan. Mae Dewi Sant newydd godi wedi noson drwm ar y fodca. Yn syth, mae e’n sylweddoli bod rhywbeth ar goll. O…
590: Busnes fideos, rhan 1
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi am wneud tamaid bach o arian trwy werthu tapiau fideo o’i fan. Mae hi wedi dod o hyd i stash o dapiau y tu mewn i sied Dewi Sant. Does dim labeli arnyn nhw, ac maen nhw braidd yn llychlyd. Tapiau Betamax yw’r…
589: Caseg
Mae caseg y Brenin Mawrglustiau wedi troi lan ar hap. Dim ond sefyll yn stond y mae hi, yn gwneud dim byd. – Beth yw ‘i phwrpas hi? gofyn Daf y gath i’w chwaer, Jeff. – Sneb yn gwbod, meddai Jeff. – Ond mae hi’n meddiannu lot o le. Saesneg / Englisb Mare King Mawrglustiau’s…
588: Ysbrydoliaeth
Mae Daf y gath yn chwilio am ysbrydoliaeth. Does dim ysbrydoliaeth yn sied Dewi Sant. Mae llawer o bethau erchyll, ond dim ysbrydoliaeth. Does dim ysbrydoliaeth ym mheiriant cwstard Santes Dwynwen chwaith. Mae llawer o gwstard erchyll, ond dim ysbrydoliaeth. Does dim ysbrydoliaeth yn nhŷ bychan Franz Kafka. Mae llawer o selsig erchyll, ond dim…
587: Brigau
Mae planhigion tomatos y llynedd yn dal i fod yn yr ardd. Cafodd neb ddim tomatos ganddyn nhw, gan fod Dewi Sant yn arddwr wael iawn. Methodd ef eu dyfrio nhw. Y cyfan sydd ar ôl yw potiau llawn o frigau. Mae’n debyg bod Jeff y gath yn hoff iawn o frigau, yn enwedig brigau…
586: Seimllyd
Mae Dewi Sant yn seimllyd heddiw. Yn ôl ei arfer. Dyw e ddim wedi ymolchi ers pum can mlynedd. Ond mae Santes Dwynwen wedi cael hen ddigon o’r drewdod. I’r bath ‘da fe! Mae’r cathod yn rhedeg i ffwrdd. ‘Dyn nhw ddim yn hoffi amser bath o gwbl. Wedi tynnu casog Dewi, mae Santes Dwynwen…
585: Llygod mawr
Mae’r ardd yn llawn o lygod mawr. Byth ers i Dewi Sant bwyta un ohonyn nhw, mae’r llygod mawr lleol am ddial arno fe. Mae llygod mawr ym mheiriant cwstard Santes Dwynwen. Mae llygod mawr yn yr oergell. Mae llygod mawr yn y blwch Dreamies. Mae llygod mawr yn y rhewgell, hyd yn oed, ond…
