Mae ciw enfawr y tu allan i’r eglwys gadeiriol. Mae pobl o bedwar ban y byd yn ciwio. Gŵyl ciwio yw’r coroni, fel unrhyw ddigwyddiad brenhinol.
Does dim angen ar yr enwog Owain Glyndŵr giwio, gan fod gwahoddiad gyda fe. Ond ynfytyn yw e, felly mae e’n mynnu ymuno â’r ciw.
Dyma’r Tywysog Moelben! Am gyffrous. Mae e’n ysgwyd llaw gyda phobl yn y dorf. Mae Owain Glyndŵr yn rhoi creon hanner cnoi iddo fe.
A dyma’r Tywysog Chwys. Mae pethau yn llifo allan o’i ddillad isaf. Am lanast. Mae ymddygiad y Tywysog Chwys yn codi cywilydd ar ei drôns, sydd yn rhedeg i ffwrdd ar eu pennau eu hunain. Ond mae’r dorf yn croesawu ei bresenoldeb, gan mai ynfydion rhagrithiol ydyn nhw.
A dyma’r Tywysog Moronen. Does neb yn y dorf yn hoffi’r Tywysog Moronen, gan fod cwyno am anghyfiawnder teuluol yn amlwg yn llawer gwaeth na cham-drin plant.
Mae’r ciw yn dechrau symud. Mae pawb yn dechrau mynd i mewn i’r eglwys gadeiriol. O’r diwedd!
Saesneg / English
Queuing
There is a huge queue outside the cathedral. People from all over the world are queuing. The coronation, like any royal event, is a queuing festival.
The famous Owain Glyndŵr does not need to queue, as he has an invitation. But he’s an idiot, so he insists on joining the queue.
Here is Prince Baldy! How exciting. He shakes hands with people in the crowd. Owain Glyndŵr gives him a half-chewed crayon.
And here is Prince Sweat. Things are pouring out of his underwear. What a mess. Prince Sweat’s behavior embarrasses his pants, which run away on their own. But the crowd welcomes his presence, as they are hypocritical morons.
And here is Prince Carrot. No-one in the crowd likes Prince Carrot, as complaining about familial injustice is obviously much worse than abusing children.
The queue starts to move. Everyone starts going into the cathedral. At last!