Mae brawd Dewi Sant wedi bod yn siarad â’r cyfryngau. Mae e wedi ysgrifennu llyfr sydd yn “dweud y gwir am Dewi Sant”, mae e’n honni. Mae Santes Dwynwen yn darllen y llyfr. Mae golwg dioddefus ar wyneb Dewi Sant. – Wnest ti… wnest ti ddim… Mae Santes Dwynwen mewn sioc. – Siwr o fod,…
Month: January 2023
453: Codi pwysau
Mae Dewi Sant am fynd i’r gampfa. Mae e eisiau gwneud argraff well ar Santes Dwynwen. – Paid, meddai Daf y gath. – Mae’n costio lot. Yn ei le, pam na wnei di fy nghodi i i’r awyr ychydig o weithiau? Dw i’n eitha trwm, wedi’r cwbl. Mae Dewi Sant yn ceisio codi Daf y…
452: Potel ddŵr
Mae Dewi Sant wedi cwympo i gysgu y tu allan i’w sied, yn cydio mewn potel ddŵr. Mae e wedi bod yn dilyn cyngor Daf y gath ac osgoi’r catnip. Ond mae e’n breuddwydio eto. Erbyn hyn, mae torf fach wedi ymgasglu o’i gwmpas i wrando arno, achos ei bod yn siarad yn ei gwsg….
451: Ceg
Mae Dewi Sant yn eistedd ar y ddaear y tu allan i’w sied ac mae golwg welw arno ef. – Be’ sy’ ‘di digwydd? gofyn Daf y gath. – Yr oeddwn yn breuddwydio, meddai Dewi Sant yn ffurfiol. – Mewn amgueddfa. Yr oeddwn i’n edrych ar amrywiaeth o bethau o’r Hen Aifft. – Ac… –…
450: Ioga
Mae’r staff wedi dechrau gwneud ioga gyda’r hwyr. Mae Daf y gath yn meddwl bod hyn yn llawer o hwyl. Mae hi’n torri ar draws y sesiwn yn ddi-baid. Mae’r staff yn ceisio symud yn araf trwy bob ystum, ond nid yw hynny’n hawdd pan fod cath yn brathu eich traed yn ddireidus. Maen nhw’n…
449: Angen coffi
Mae Jeff y gath wedi cael noson galed ar y catnip. Mae ei llygaid yn dal i fod fel soseri, ac mae hi wedi blino’n rhacs, achos ei bod hi wedi treulio’r nos yn dringo ar y staff wrth iddyn nhw gysgu. Mae Jeff angen coffi, ond does dim coffi i’w gael. Digwydd bod, mae…
448: Profi
Mae Bryn Terfel yn profi cwstard newydd Santes Dwynwen. Mae hi wedi bod yn ffidlo gyda’i pheiriant cwstard dros y Nadolig a chreu rysáit newydd. Mae’r cwstard yn wyrdd. – Mae’n edrych yn ofnadw gyda bananas, meddai Bryn Terfel. – Shwt mae’n blasu? – Yn ofnadw. Ti angen newid y rysáit eto. Ond mae llwyth…
447: Prisiau
Mae prisiau wedi codi. Mae Jeff y gath yn pryderu nad ydyn nhw’n mynd i allu fforddio rhagor o catnip. – Allen ni werthu Dewi Sant, meddai Daf y gath. – Fydd neb yn ‘i brynu fe, ymateb Jeff. – Mae seintiau yn ddrud i’w cadw nhw. – Gadewch i ni gael un profiad seicedelig…
446: Cosb
Mae Dewi Sant am groeshoelio Eifion yr octopws. – Bach yn harsh, ynde? Allet ti ddim aros tan y Pasg? meddai Daf y gath. – Rhaid i ni gysidro’r ratings, ateb Dewi Sant. – Ac mae e wedi pechu, beth bynnag. – Be’ ma’ fe ‘di ‘neud? gofyn Daf. – Wedd e’n mynnu dweud “llefrith”,…
445: Blwyddyn yr Octopws
Sawl diwrnod yn ôl, daliodd Jeff octopws wrth hela. Eifion yw ei enw ef. Mae e’n dod o Wynedd yn wreiddiol a dweud pethau fel “isio” a “llefrith”. Roedd Eifion yr octopws eisoes yn grac pan gyrhaeddodd e’r ardd. Ond mae e’n fwy crac byth erbyn hyn, gan fod y cathod yn wastad yn gwirio…
