Mae hi’n niwlog yn yr ardd. Does neb yn gallu gweld dim byd. Mae’r chwarter-siarc yn methu jyglo, achos ei fod e’n methu dod o hyd i’w peli jyglo yn y niwl. Mae Santes Dwynwen yn methu gwneud cwstard, achos ei bod hi’n methu dod o hyd i’w pheiriant cwstard yn y niwl. Mae Jeff…
Month: January 2023
463: Heulog
Heddiw, mae’n heulog yn yr ardd. Mae’r haul yn gynnes. Mae Santes Dwynwen am gael lliw haul. – Mis Ionawr yw e, meddai Daf y gath. – Byddi di’n rhewi. Mae Santes Dwynwen yn dechrau torheulo. Mae hi’n troi mewn i floc o iâ. Saesneg / English Today, it is sunny in the garden. The…
462: Oer
Mae hi’n oer yn yr ardd. Mae Santes Dwynwen yn gwisgo ei chot fawr, a’i esgidiau eira, rhag ofn. Tra bod Daf y gath a Jeff ei chwaer yn cyrlio i fyny yn sied Dewi Sant, mae Bryn Terfel yn adeiladu strwythur newydd o fananas. Mae golwg iglw ar y strwythur, ar wahân i’w ddefnydd….
461: Glaw
Mae Dafydd Iwan yn mynychu rali arall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eglwyswrw. Mae hi’n oer, ac mae’n bwrw glaw. Mae hi wastad yn bwrw glaw yn Eglwyswrw. Mae Dafydd Iwan ar lwyfan yn neuadd y pentref. Mae Daf y gath yn y gynulleidfa. Mae Dafydd Iwan yn dweud pethau pwysig. Mae’r gynulleidfa’n cymeradwyo. Mae…
460: Ar goll
Mae plismyn yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws. Mae Dewi Sant ar goll. Mae Eifion yr octopws yn hapus iawn gan fod sied Dewi Sant yn wag. Mae e’n llenwi’r sied â dŵr a symud i mewn. Ond ble mae Dewi Sant? Does neb yn gwybod. Mae Daf y gath yn cyhuddo Bryn Terfel…
459: Rali
Mae Daf y gath wedi cael syniad newydd. Mae hi’n mynd i achub yr iaith Gymraeg. Mae hi’n bwriadu cynnal rali yn yr ardd. Mae’r tatws yn hoffi’r syniad yn fawr iawn, ond yn anffodus maen nhw wedi camddeall a chyhoeddi rhyfel ar y rhosod. Ar ddiwrnod y rali, mae Jeff yn gwneud placardiau. Mae…
458: Dosbarth dawnsio
Mae Daf y gath wedi penderfynu cynnal dosbarth dawnsio yn lle dosbarth canu. Santes Dwynwen bydd yr athrawes, gan fod Bryn Terfel yn dal i lefain am ei dun rhostio a bwyta gormod o fananas. Mae’r sesiwn gyntaf yn dechrau gyda waltsio, cyn symud ymlaen at y Paso Doble. – Safwch yn dal! meddai Santes…
457: Menter “dysgu canu”
Mae Daf y gath wedi cael syniad arall am ennill bach o arian. Ar hyn o bryd, y cwbl mae Bryn Terfel yn gwneud yw llefain a thaflu bananas, gan fod Eifion yr octopws wedi dwyn ei dun rhostio e. Ond mae Daf y gath am gynnal dosbarthiadau canu. – Bydd pawb yn talu am…
456: Brech
Mae brech ar Eifion yr octopws. Mae e’n cosi’n arw. Mae smotiau coch drosto fe i gyd. Mae e’n mynd i weld y milfeddyg. – Gweddïwn, meddai’r milfeddyg. O, na. Mae problem. Yr Esgob mewn gwisg ffansi yw’r milfeddyg. Mae Eifion yn dychwelyd i’r ardd a dringo i mewn i’r peiriant golchi llestri er mwyn…
455: Het Eifion
Mae het ysblennydd gydag Eifion yr octopws. Digwydd bod, tun rhostio yw hi. O diar. – Pam wnest ti ddwyn tun rhostio Bryn Terfel? gofyn Daf y gath i Eifion. – O’n i isio het ysblennydd, ‘sti? meddai Eifion. – Wel, mae’n sicr yn ysblennydd, meddai Daf. – Ond bydd trafferth. Mae Bryn Terfel yn…
