Mae cannoedd o afancod yn yr ardd. Maen nhw’n cnoi popeth, yn gynnwys sied Dewi Sant. Mae Dewi Sant yn ceisio eu heidio nhw. – Beth sy’n mynd ymlân fan hyn? gofynna Daf y gath. Mae Dewi Sant yn oedi, wrth dynnu ar ei sigarét. – Mae gen i gynllun, meddai ef. – Yr ydwyf…
Month: November 2022
Dim byd
Mae Keith y gordyn yn cael amser da yn yr heulwen. Dyw e ddim yn gwneud dim byd, yn ôl ei arfer. Dim byd heblaw am fod yn dew. Ac yn rownd. Eleni, mae e wedi osgoi’r bygythiad o gael ei gerfio unwaith eto, ac erbyn hyn mae e’n edrych ymlaen at y Nadolig. –…
Cwpan
Mae Dewi Sant eisiau hyfforddi’r cathod. Mae’r Frenhines Branwen yn cynnal cystadleuaeth bêl-droed, ac mae e eisiau ennill y cwpan. Dyw’r cathod ddim am gael eu hyfforddi. – Os wyt ti isie cwpan newydd, pam nad wyt ti jyst yn mynd i’r siopau? meddai Daf y gath yn gall. – Sai’n mynd ar ôl blydi…
Ofn
Mae’r eirinen newydd yn ofni Santes Dwynwen. Â bod yn benodol, mae e’n ofni cwstard Santes Dwynwen. Dyw e ddim eisiau cael ei fwyta. Ond mae’n amser pwdin. Dyw Daf a Jeff ddim yn hoffi ffrwythau o gwbl. Ond mae Santes Dwynwen yn hoff iawn o eirin. O diar. Digwydd bod, roedd yr eirinen yn…
Cystadleuaeth ddawnsio
Mae Dewi Sant yn cynnal cystadleuaeth ddawnsio yn yr ardd. Fe fydd yn farnwr, gyda Santes Dwynwen a’r Frenhines Branwen. Pwy sy’n dawnsio’n gyntaf? – Yn dawnsio gyda’i bartner Franz Kafka, dyma Samuel Beckett yn dawnsio’r tango Archentaidd, meddai llais dirgel o’r nefoedd. Mae’r tango’n slic a secsi. – Saith! meddai Santes Dwynwen. – Wyth!…
Eirinen
Un tro, ar ôl iddi lyfu ei thraed am oriau, daeth Daf y gath o hyd i eirinen ar waelod yr ardd. Tew a phorffor oedd yr eirinen, a sgleiniog. – Helo, meddai’r eirinen. – Eirinen dw i. – Wes enw ‘da ti? gofynnodd Daf. – O’s. Keith dw i. – Na, ti ddim, meddai…
Bisgedi boncyrs
Mae’r staff wedi prynu “bisgedi boncyrs” i’r cathod, sydd yn cynnwys catnip. Mae Jeff y gath wedi dod yn gaeth iddyn nhw. Mae ei llygaid fel soseri ac mae hi’n cael symptomau diddyfnu yn aml iawn. Ac mae hi wedi dechrau brathu’r staff, fel rhyw sombi neu’i gilydd. Sombi ar gyffuriau. Mae Daf y gath…
Sâl
Mae Dewi Sant yn sâl. Mae e’n gorwedd ar ei wely yn ei sied. Dyw e ddim eisiau gweithio. Dyw e byth eisiau gweithio beth bynnag. Mae Jeff y gath wedi ymgyrlio wrth ei draed. – Dylet ti fod yn nawddsant traed cynnes, meddai Dewi Sant. Ond ddaw ddim ateb. Mae Jeff yn cysgu. Saesneg…
Bryn Terfel
Un tro, roedd Franz Kafka wedi dod o hyd i selsigen a oedd yn llai nag unrhyw selsigen oedd e wedi gweld o’r blaen. – Helo, meddai’r selsigen. – Bryn Terfel dw i. – Ti wedi colli eitha lot o bwysau ‘te, meddai Franz Kafka, cyn cadw Bryn Terfel yn un o’r powlenni cathod rheiny…
Llythyr Dewi Sant at yr Esgob
Annwyl Esgob, Yr ydwyf am ymddiswyddo. Eto. Fe gefais lythyr oddi wrth ryw gwmni neu’i gilydd oedd yn dweud y bydd fy mhensiwn yn cael ei “amsugno” yn ôl i gronfeydd ariannol yr eglwys. Y bastard. Fe gei di ddod o hyd i nawddsant arall ar gyfer y wlad. Yr ydwyf wedi cael hen ddigon….
