Mae pawb yn yr ardd wedi bod yn chwarae pêl-droed, heblaw am Dewi Sant, sydd wedi pasio mas yn ei sied, a’r chwarter-siarc, sydd yn nofio mewn cwstard Santes Dwynwen. – Sai’mod amdanat ti, meddai Daf y gath wrth ei chwaer Jeff – Ond sai rîly yn gystadleuol o gwbl. – Na finne, ymateb Jeff….
Month: November 2022
410: Menter Opera
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi’n mynd i rentu Bryn Terfel i ffaniau opera. Am ddim ond bum punt byddan nhw’n cael Bryn Terfel am ddiwrnod cyfan. Fel canlyniad bydd Dreamies i bawb. Ond mae problem. Mae Bryn Terfel wedi bwyta miloedd o fananas a methu symud, heb sôn…
409: Bargen
Cafodd Daf y gath fargen dda ddydd Gwener du. Roedd cynnig arbennig ar fananas, felly mae hi wedi prynu sawl tunnell ohonyn nhw. Mae Bryn Terfel a Samuel Beckett yn hapus iawn iawn. Mae Bryn Terfel yn canu aria operatig drasig am farwolaeth banana fregus. Mae Samuel Beckett yn ysgrifennu drama am fanana sydd yn…
408: Ffiniau
Mae Prifdaten arall wedi ymddangos, gyda byddin arall o ddilynwyr, er gwaetha’r malltod. Mae’n amhosib cael gwared arnyn nhw. Mae’r Prifdaten yn patrolio ffiniau’r ardd wrth weiddi mewn priflythrennau. Mae e am ynysu’r ardd yn gyfan gwbl. – FYDD NEB YN PASIO, meddai. – O cau dy ben, meddai Daf y gath, cyn neidio ar…
407: Llwgrwobrwyaeth
Mae Dewi Sant wedi derbyn amlen ddirgel o arian gan yr Esgob. – Nei di brynu mwy o Dreamies, ‘te? meddai Daf y gath. Ond ansicr iawn ydy Dewi Sant. – Dw i’n teimlo bo’ fi’n câl ‘n llwgrwobrwyo, fel arfer, meddai. – Llwgrwobrwyo i wneud be? meddai Daf. – Sai’mod. Dyna’r broblem. Yna, mae…
406: Hollti
Mae rhywun wedi hollti’r hanner-siarc yn ei hanner, sydd yn anghyffyrddus iawn. Erbyn hyn, chwarter-siarc yw e. Mae e’n cael trafferth jyglo. – Be ddigwyddodd? gofyn Daf y gath. – Sai’mod, meddai’r chwarter-siarc. Wê popeth mor glou. Mae Daf y gath yn sylwi ar Dewi Sant yn chwerthin a Crispin y milgi â chyllell wedi’i…
405: Menter Goleuadau Nadolig
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd i ennill tamaid bach o arian. Mae hi’n mynd i sefydlu gwasanaeth goleuadau Nadolig, gan nad yw neb am ddringo ysgol yn y glaw. – Y dwpsen, meddai Jeff ei chwaer. – Mae hynny’n golygu bydd rhaid i ti ddringo ysgol yn y glaw. –…
404: Gwall
Mae Caerfyrddin y gragen fylchog anneuaidd wedi gwneud gwall. Gwall difrifol yw e. Am ryw reswm, mae Caerfyrddin wedi herio Crispin y milgi i ras o gwmpas yr ardd. Mae Dewi Sant yn chwythu chwiban i’r ras gychwyn. Mae Crispin yn diflannu i’r pellter. Mae Caerfyrddin yn agor eu cragen modfedd neu dwy a methu…
403: Gwlad y bananas, rhan 3
Mae Daf y gath yn ceisio adeiladu peiriant cwstard i Frenin y bananas. Blwch carbord yw e. Ond mae rhywbeth ar goll. Mae angen cydran ychwanegol. Ah, dyma ni. Mae Daf y gath yn dod o hyd i ben blaen ffelt a thynnu llun o beips ar y peiriant. – Bydd eich holl broblemau wedi’u…
402: Gwlad y bananas, rhan 2
Mae popeth yn felyn. Mae Daf y gath wedi teithio i wlad y bananas trwy’r oergell er mwyn dianc rhag Crispin y milgi. Ac nawr, mae popeth yn felyn. Mae Daf yn ofnus. Mae hi’n becso bydd Chris Martin yn troi lan. – Fy annwyl gath, meddai Brenin y bananas, – A fyddech chi mor…
