Mae Crispin y milgi wedi gweithio allan ei fod e’n gallu cyrraedd cyflymder o hanner can milltir yr awr wrth redeg o gwmpas yr ardd. Mae e’n dechrau ymlid y cathod. Mae Daf y gath a Jeff ei chwaer wedi gweithio allan bod angen arnyn nhw redeg am hanner cant ac un filltir yr awr…
Month: November 2022
400: Amser torri crafangau
Mae’r cathod yn cael eu hymlid o gwmpas yr ardd gan y staff. Amser torri crafangau yw e, a dydyn nhw ddim am gael eu dal. – Jeff! Wyt ti isie bisged? gofyn y staff. Dyw Jeff ddim eisiau bisged. Dyw hi ddim am gael ei thwyllo. – Daf! Wyt ti isie bisged? gofyn y…
399: Pŵer cuddiedig
Mae Caerfyrddin y gragen fylchog anneuaidd yn cael ei anwybyddu yn gyfan gwbl gan bawb yn yr ardd. Does ganddyn nhw ddim diddordeb mewn bwyd môr tra bod yr Archfadarch yn gwneud tric amhosib gydag hanner olwyn beic modur a phaced o greision. Ond mae gan Caerfyrddin bwerâu cuddiedig. Maen nhw’n medru galw ysbrydion o’r…
398: Cragen fylchog
Mae cragen fylchog wedi dod i’r ardd. Maen nhw’n anferth ac yn anneuaidd. – Helo, meddai’r gragen fylchog. – Caerfyrddin dw i. – Helo, meddai Daf y gath. – Ti bron cymaint â Chaerfyrddin. – Shwt dwi fod i jyglo gyda hwna? gofyn yr hanner-siarc. – Sai’n hoffi jyglo, meddai Caerfyrddin. – Ond fi’n hoff…
397: Rheiddiadur
Mae Bryn Terfel wedi gadael banana o flaen y rheiddiadur electrig. Mae’r fanana’n mynd yn ddu a dechrau pydru. Dyw’r fanana ddim yn hapus o gwbl. Mae lot gormod o sŵn gan fod canu Bryn Terfel yn uchel iawn, ac mae’n anghyffyrddus o boeth. Mae’r fanana ar fin cwyno pan mae Dewi Sant yn troi’r…
396: Afancod, rhan 6
Mae Crispin wedi cyrraedd yr ardd. Ci newydd yw Crispin. Milgi yw e. Digwydd bod, mae e’n hoff iawn o ymlid pethau, yn gynnwys cathod. Ond am nawr, mae e wrthi’n hela’r afancod allan o’r ardd. Cyn bo hir, mae tawelwch unwaith eto. Adfail yw sied Dewi Sant, ond mae pawb yn hapus. Mae Daf…
395: Afancod, rhan 5
Mae Daf y gath a’r afanc mae hi wedi gwerthu ar-lein yn trio ffeindio’r ficer sydd wedi ei brynu. Yn y cyfamser, mae Jeff y gath yn cael llawer o drafferth gyda’r pum cant o afancod eraill. Maen nhw’n cnoi popeth. Ond waeth byth, maen nhw’n dwyn bwyd Jeff. A’r Dreamies. Dyw hi ddim yn…
394: Afancod, rhan 4
Mae hi wedi nosi. Ar ôl i fan Daf dorri i lawr, mae hi’n cael ei synnu gan ba mor ufudd yw’r afanc. Mae’r afanc yn cadw ar ei sawdl heb achosi unrhyw drafferth, ac maen nhw’n mynd ymlaen mor ddiogel â phosib. Ond mae Lloegr yn lle ofnadwy o beryglus. Mae anghenfilod ar y…
393: Afancod, rhan 3
Mae Daf y gath yn dosbarthu afanc i ficer neis yn Lloegr yn ei fan (sydd yn flwch cardbord cyflym iawn). Mae’r ficer wedi prynu’r afanc ar-lein. Dyma fenter newydd Daf. Mae Daf yn ofni Lloegr. Y tro diwethaf iddi fod yno fe wnaeth dyn dychrynllyd o Reoli Plâu geisio ei charcharu. Heb sôn am…
Afancod, rhan 2
Mae Daf y gath wedi dechrau menter newydd. Mae hi’n gwerthu afancod ar-lein. Erbyn hyn mae hi wedi gwerthu pump ohonyn nhw. Does dim ond pum cant ar ôl. Heddiw mae hi wedi gwerthu afanc i ficer neis yn Lloegr. – Beth mae ficer yn mynd i wneud gydag afanc? gofynna Jeff y gath. –…
