Mae Daf y gath am gael tatŵ. – Y dwpsen, meddai Jeff ei chwaer, – Mae cot drwchus o ffwr gyda ti. Fydd neb yn gallu gweld unrhyw datŵ. – Peth emosiynol yw e, meddai Daf. – Fyddet ti ddim yn deall. – Cer amdani, ‘te, meddai Jeff. Dwy awr yn hwyrach, mae Daf yn…
Month: October 2022
Trefedigaeth
Gan fod popeth yn mynd i’r wal oherwydd y Prifdaten, mae Draig y ci eisiau sefydlu trefedigaeth ar y blaned Mawrth. Mae Draig y ci yn garedig iawn, ond mae e hefyd yn dwpsyn. Yn reddfol, dyw Daf y gath ddim yn meddwl bod mynd i’r blaned Mawrth yn syniad da. Mae ganddi hi un…
Hoffi
Mae Daf y gath yn siarad â Dewi Sant. – Dewi, wyt ti’n hoffi gwin gwyn? – Ydw, wrth gwrs. – Wyt ti’n hoffi gwin coch? – Ydw, wrth gwrs. – Wyt ti’n hoffi antifreeze? Mae Dewi Sant yn oedi am eiliad. – Bydd e’n gwneud y tro. Saesneg / English Like Daf the cat…
Cynnar
Mae Daf y gath wedi codi yn gynnar yn y bore. Does dim byd yn symud. Mae’n gas gyda Daf godi yn gynnar, ond mae ganddi hi waith i’w wneud. Mae hi’n neidio i’w fan, a gyrru bant. Awr yn ddiweddarach, mae Jeff ei chwaer yn agor ei llygaid i weld pentwr mawr o flychau…
Melyn
Mae popeth yn yr ardd wedi mynd yn felyn. Nid ar Santes Dwynwen a’i chwstard cariad yw’r bai, am unwaith. Mae Chris Martin wedi dod i’r ardd, ac mae e’n canu cân lle mae popeth yn felyn. – Trowch eich golygon at y sêr, meddai Chris Martin. – Cer o ‘ma, y twpsyn, meddai Jeff…
Tew
Mae Daf y gath yn mynd yn dew. Mae hi’n weddol rownd. Mae hi wedi bod ar daith yn yr ardal, yn hwfro lan bwyd cathod eraill. Erbyn hyn, mae Dewi Sant a’r staff yn gwrthod ei bwydo hi rhag ofn iddi gael trawiad ar y galon neu ddiabetes. Ond mae cynllun gyda Daf. Mae…
Tennyn
Mae Jeff y gath wedi cyrraedd pen ei thennyn gyda’i chwaer gan fod Daf y gath yn ymosod arni hi trwy’r amser. Gall Daf fod yn ast weithiau, meddylia Jeff. Mae Jeff yn penderfynu defnyddio’r tennyn i glymu Daf wrth ddrws sied Dewi Sant. Mae hi’n gofyn i Santes Dwynwen am gymorth. Mae Santes Dwynwen…
Traethbrogio
Mae Santes Dwynwen yn sgint. Mae hi wedi rhedeg mas o gocên. Mae’r cwbl lot wedi mynd. Â dweud y gwir mae Daf y gath wedi cymryd y cyfan. A chan fod y Prifdaten wedi tancio’r economi, does dim arian ar ôl i brynu mwy. Erbyn hyn, mae Daf y gath yn malu cachu am…
Cocên
Mae Santes Dwynwen wedi bod yn mewnforio cocên er mwyn ennill tamaid bach o arian, achos bod y Prifdaten wedi tancio’r economi. Ond pwy sy’n mynd i ddosbarthu‘r cocên? – Daf, ga i ofyn ffafr? Mae Daf y gath yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl, a dyw hi ddim yn bwriadu dosbarthu’r cocên o…
Tro pedol
Mae’r Prifdaten wedi gwneud tro pedol yn ystod cynhadledd y tatws. Ond mae economi’r ardd yn dal i dancio. Mae Santes Dwynwen wedi penderfynu gwneud tro pedol hefyd. Mae hi wedi penderfynu mewnforio cocên yn lle gwneud cwstard. – Does dim dewis gyda fi, meddai hi. – Ac mae ‘na draeth cyfleus sydd dafliad cerrig…
