Mae’r cyn-Prifdaten wedi ailymddangos. On’d oedd e wedi ei stwnsio? Efallai. Efallai dim. Erbyn hyn, mae e’n meddwl taw fe sydd yr ymgeisydd a all achub y byd. Ond mewn gwirionedd, mae e’n daten digywilydd, gwacsaw. Rhech mewn pot jam. Bag bin o gwstard. Ac yn y blaen. Ond mae’n debyg nad oes pŵer gan…
Month: October 2022
Nefoedd ac Uffern
Mae’r ardd wedi troi’n Uffern ar y ddaear. Mae popeth ar dân ac mae Prifdatws newydd posib ym mhobman yn gweiddi mewn priflythrennau. – Sa i’n hoffi Uffern bellach, meddai Daf y gath. – Dewi, sut beth yw’r Nefoedd? – Wel, meddai Dewi Sant. – Ges i gipolwg unwaith ar ôl i fi basio mas…
Anrhefn
Mae’r tatws yn lladd ar ei gilydd yn ddi-baid. Does dim heddwch yn yr ardd o gwbl. Mae un ymddiswyddiad ar ôl y llall. Ond mae’r Prifdaten yn syllu i’r gofod. Mae’r Prifdaten arall yn parhau i ychwanegu cyffuriau at ei choffi. Mae ei gynllun e’n gweithio’n berffaith. Cyn bo hir, mae’r Prifdaten gwreiddiol yn…
Colled tymer
Mae Draig y ci yn rhedeg o gwmpas yn wyllt. Bachgen da yw e, ond niwsans yw e hefyd. – Wnei di daflu’r bêl wnei di wnei di wnei di? – Gad lonydd i fi, Draig, meddai Jeff y gath. – Mae gen i lot o bethau pwysig i neud. Mae Draig yn mynd at…
Amser tabled
Amser tabled yw e. Mae’r staff yn lapio’r tabledi mewn cig moch. Mae Jeff y gath yn bwyta’r cig moch a gadael y dabled. Mae’r staff yn cael gafael ar Jeff. Mae hi’n gwingo a chwyno, ond yn fuan iawn mae hi’n rhoi’r gorau i wrthod a chymryd ei thabled. Merch dda yw Jeff. –…
Llymder
Mae dau Brifdaten yn yr ardd erbyn hyn. Does neb wrth y llyw, mewn gwirionedd. Does dim cytuno ar beth maen nhw’n mynd i’w wneud. Bydd lot o wario, ond bydd llymder. Bydd gostwng trethi, ond bydd cynnydd trethi hefyd. Bydd jam yfory, ond bydd caws caled yn y cyfamser. – Dw i’n casáu’r tatws,…
Blodau
Mae Dewi Sant wedi prynu blodau i Santes Dwynwen. – Diolch yn fawr, Dewi, meddai Santes Dwynwen, – ond doedd dim angen. Byddai’n well i ti arbed dy arian. Mae Dewi Sant yn edrych ar y blodau. Mae e’n eu taflu nhw ar y llawr a mynd yn ôl i’w sied yn drist. – Mae’r…
Oeri
Mae’r gaeaf yn dod. Mae hi’n oeri. Mae’r Prifdaten yn cwyno yn barhaol ei bod hi’n rhewi. Felly Mae Santes Dwynwen yn penderfynu mynd â hi i’r siopau i brynu het gynnes. Ond does dim hetiau cynnes ar ôl. Mae pawb yn rhewi, gan nad yw hi’n bosib iddyn nhw fforddio troi’r gwres canolog ymlaen….
Tro pedol arall
Mae’r Prifdaten wedi gwneud tro pedol arall. Y tro hwn, mae hi’n ceisio diswyddo Dewi Sant am fod wedi meddwi, er gwaethaf iddi ddweud yn gyhoeddus ei bod hi’n hollol gefnogol i’w feddwdod. – Nid ti yw fy nghyflogwr, y dwpsen, meddai Dewi Sant, wrth i’r Prifdaten drosglwyddo llythyr ymddiswyddiad iddo fe lofnodi. Does neb…
Cynhadledd
Mae’r Esgob wedi gorfodi Dewi Sant i fynd i gynhadledd. Dyw Dewi Sant ddim yn hapus am y peth o gwbl. Mae’r cyflwynyddion yn ddiflas iawn. Maen nhw i gyd yn dod o’r byd busnes, gan fod yr Esgob am i’r eglwys ennill mwy o arian. Ond dyw Dewi Sant ddim yn rhoi cachiad am…
