Mae Nos Calan Gaeaf ar y gorwel. Mae pwmpen wedi dod i’r ardd. Pwmpen anferth yw e, o’r enw John Rees. – Dewch yma, John Rees, rwy am ych cerfio chi, meddai Dewi Sant mewn tôn frawychus. Mae Daf y gath yn edrych ar Jeff ei chwaer. – Ma’n swno wâth, rywsut, gan fod enw…
Month: October 2022
Mynd yn ôl
Mae’r clociau wedi mynd yn ôl, sydd yn golygu awr ychwanegol o gwsg i’r staff. Mewn damcaniaeth. Ond mae Daf y gath yn codi am dri o’r gloch yn y bore i aros am ei brecwast beth bynnag. (Mae Jeff y gath wastad yn aros am ei brecwast nesa hithau, hyd yn oed yn ar…
Bolrwym
Mae Jeff y gath yn folrwym ar ôl iddi fwyta’r Archfadarch. Dyw hi ddim yn gallu mynd i’r tŷ bach ers amser hir. – Yn yr hen ddyddiau, baswn i’n cymryd olew iau penfras, meddai Santes Dwynwen. – Dim diolch, meddai Jeff. Mae Jeff yn parhau i fod yn folrwym. Mae hi’n anghyffyrddus iawn. –…
Tric arall
Ar ôl perfformiad dinistriol gan yr Archfadarchen, camodd Jeff y gath i’r hanner-lwyfan. – Dw i’n mynd i neud tric arall, meddai hi. Roedd hi’n bwriadu sefyll ar olion y llwyfan, taflu llygoden yn yr awyr, a llyncu’r cyfan heb gnoi. Ond roedd hi’n rhy hwyr. Dawnsiai’r Archfadarchen o gwmpas y llanast oedd e wedi…
Tric
Un tro, roedd yr Archfadarch am wneud tric hudolus anhygoel er mwyn diddanu pawb yn yr ardd. Adeiladodd llwyfan fechan a dod o hyd i hen lif. Yna, wrth wisgo gwisg grand iawn a het silc, camodd ar y llwyfan â fflach wyllt yn ei lygaid. Llifiodd y llwyfan yn ei hanner, cyn malurio ei…
Gwaethygu
Un tro, roedd pethau wedi gwaethygu. Doedd dim catnip ar gael, ac roedd Jeff y gath yn prowlan i fyny ac i lawr yr ardd. Roedd hi’n cael symptomau diddyfnu, a chrynu. Doedd dim cwrw ar gael chwaith, felly roedd Dewi Sant yn dioddef o symptomau diddyfnu hefyd, a chwysu. Doedd dim peli jyglo ar…
Carchar
Un tro, roedd Daf y gath a’i chwaer Jeff yn y carchar eto. Roeddent yno ers pedwar diwrnod. Doedden nhw ddim yn gwybod pam oedden nhw yn y carchar o gwbl. – Falle ‘bo ni wedi cymryd gormod o catnip, awgrymodd Jeff. – Falle, meddai Daf, – Rhaid ‘bo ni ‘di neud rhywbeth rîly drwg,…
Ailymddangosiad, rhan 4
Mae Sant Padrig wedi bod yn garedig iawn. Mae e wedi postio paced o falltod, gyda chyfarwyddiadau, at Dewi Sant er mwyn cael gwared ar y tatws, yn enwedig y cyn-Brifdaten. Mae Dewi Sant yn gwasgaru’r malltod dros wely’r tatws ac aros. Cyn bo hir, mae tawelwch. Cyn bo hir, does dim anrhefn bellach. Cyn…
Ailymddangosiad, rhan 3
Dyw cynllun Daf y gath ddim wedi gweithio. Roedd hi’n bwriadu boddi’r tatws i gyd – yn gynnwys y cyn-Brifdaten – yng nghwstard Santes Dwynwen, ond roedd y tatws wrthi’n cynnal derbynfa diodydd rywle arall. – Fe wna i ffonio Sant Padrig, meddai Dewi Sant. – Bydd e’n gwybod beth i’w wneud. Mae Dewi Sant…
Ailymddangosiad, rhan 2
Mae’r cyn-Brifdaten wedi ailymddangos. Mae popeth ar dân, ac yn y blaen. Mae Dewi Sant wedi dechrau gweddïo, hyd yn oed. Ond mae Daf y gath yn mynd i stopio’r tatws a’u hanrhefn. Mae hi’n neidio i’w fan a gyrru’n gyflym iawn at iard yr adeiladwyr, lle mae hi’n prynu llwyth o frisblociau. Yna, mae…
