Mae tywysog wedi troi lan mas o nunlle. Mae ei goron yn edrych yn weddol newydd ac mae e’n gwisgo dillad porffor. Nid yw e’n gwneud dim byd, achos ei fod e’n disgwyl i bawb arall wneud pob dim ar ei ran ef. Dim ond sefyll a chwyno y mae e, fel Dewi Sant heb…
Month: September 2022
Sombi
Mae Daf y gath wedi gweld sombi. Mae hi’n ofni sombis. Y tro diwetha daeth sombi i’r ardd, roedd lot o drafferth tan i Draig y ci hela fe i ffwrdd. Ond mae’r sombi hon yn wahanol. Mae hi’n gwrtais iawn. Mae hi’n gofyn i bawb sut maen nhw, a dyw hi ddim wedi brathu…
Oedfa
Mae Dewi Sant yn cynnal oedfa sbesial ar orchymyn yr Esgob. Mae e wedi gorfod gadael yr ardd a mynd i rywle arall yn y plwyf. Ond byddai’n well gyda fe fod yn ei sied gyda’i win coch beunyddiol. Mae’r cathod wedi dod i’r oedfa. Maen nhw’n achosi trafferth wrth hela llygod yng nghefn yr…
Osgoi
Mae Dewi Sant yn trio osgoi popeth. Mae e’n osgoi beth sydd ar y teledu wrth ei daflu e i mewn i lyn. Mae e’n osgoi beth sydd ar y radio wrth ei daflu e i mewn i sgip. Mae e’n osgoi beth sydd ar gyfryngau cymdeithasol wrth beidio defnyddio’i ffôn symudol. Yna daw’r Esgob….
Gwisg ffansi
Mae Daf y gath yn gwisgo gwisg ffansi. Mae hi’n esgus bod yn bengwin. – Pam ‘ti ‘neud ‘ny? gofynna Jeff ei chwaer. – Rhaid i ni wisgo du, mae’n debyg, meddai Daf. – Iawn. Yna wna i wisgo lan fel pry cop, ymateba Jeff. Yn fuan, mae pawb yn yr ardd yn gwisgo gwisg…
Menter amlenni, rhan 2
Mae Daf y gath yn dychwelyd i’r ardd ar ôl iddi fynd mas yn ei fan am sbel. Mae’r fan yn llawn dop o amlenni brown. Mae hi’n bwriadu gwerthu’r amlenni i’r Prifdaten newydd, sydd yn hoff iawn o sgriblo’i syniadau ar gefn amlen. – Ble gest ti’r rheina? gofynna Jeff. Ond dyw Daf ddim…
Menter amlenni
Un tro, gorweddai Daf y gath yn yr ardd. Roedd hi wrthi’n llyfu ei thraed pan gafodd hi syniad am fenter newydd. Aeth i’w ddweud wrth Jeff ei chwaer. – Jeff, mae gen i syniad ar gyfer menter newydd. – Pam wyt ti’n siarad fel Gog? – Sai’mod. ‘Ta beth. So’r Prifdaten newydd yn cynllunio…
Garddwr
Mae’r garddwr wedi dod i dacluso’r ardd. Dyw’r cathod ddim yn ei hoffi pan ddaw y garddwr. Maen nhw’n defnyddio gwely’r rhosod fel toiled, ac felly mae dyfod y garddwr yn codi embaras arnyn nhw. Y tro hwn, mae gwely’r rhosod yn drewi. Mae’r Prifdaten newydd wedi bod yn cwyno’n uchel. – DYNA. WARTH. MARCHNADOEDD…
Etholiad
Mae’r tatws wedi cynnal etholiad er mwyn dewis Prifdaten newydd. – Pam dych chi’n gwneud hynny? gofynna Daf y gath. – Mae hi fel greddf, meddai un daten. – Wrth i’r tymhorau newid, ‘dyn ni’n newid ein harweinydd. – Ond pam? – Does neb yn gwbod. Mae hi wastod wedi bod fel ‘na. Ar lwyfan…
Banana
Mae Samuel Beckett yn gweiddi ar fanana eto tu fewn i’r piano. Mae cur pen ar Franz Kafka achos bid Samuel Beckett mor swnllyd. Dyw’r fanana‘n hapus o gwbl. Dyw hi ddim yn hoffi pan mae pobl yn gweiddi arni hi. Mae’r fanana’n dechrau gweiddi’n ôl ar Samuel Beckett. Y tu allan i’r piano, mae’n…
