Mae Daf y gath yn gwisgo gwisg ffansi. Mae hi’n esgus bod yn bengwin.
– Pam ‘ti ‘neud ‘ny? gofynna Jeff ei chwaer.
– Rhaid i ni wisgo du, mae’n debyg, meddai Daf.
– Iawn. Yna wna i wisgo lan fel pry cop, ymateba Jeff.
Yn fuan, mae pawb yn yr ardd yn gwisgo gwisg ffansi. Mae Dewi Sant wedi gwisgo lan fel sebra, tra bod Santes Dwynwen wedi gwisgo lan fel ystlum. Mae’r hanner-siarc yn esgus bod yn jar o Marmite.
– Amser profiad seicedelig? meddai Daf.
– Yn bendant, meddai Jeff.