Mae Daf y gath yn colli arian yn barhaol. Felly mae Jeff yn penderfynu gwladoli ei chwaer er mwyn rheoli’r sefyllfa. Ond does gan y llywodraeth ddim diddordeb mewn cath sinsir dwp. Felly yn lle gwladoli ei chwaer, Mae Jeff yn ei chloi hi yn sied Dewi Sant, rhag ofn iddi golli mwy o arian….
Month: September 2022
Coron
Mae Daf y gath wedi ffeindio coron. I Daf, mae’r goron yn edrych yn ddrud iawn. Mae hi’n hoffi’r goron. Mae hi’n bwriadu gwerthu’r goron i ennill bach o arian. Omd mae’r goron yn perthyn i Santes Dwynwen. Dim ond gwisg ffansi plastig yw hi. Weithiau, mae Dewi Sant yn gofyn iddi hi wisgo’r goron…
Angladd
Mae Daf y gath wedi palu twll yng ngwely y rhosod. – Be’ sy’, Daf? meddai Jeff ei chwaer. – Dwi’n cynnal angladd. – Angladd pwy? – Angladd ‘nghallineb. Wedd ‘mhrofiad seicedelig dwetha tamed bach yn gryf. Dwi wedi mynd o ‘ngho. Sdim ffordd nôl. – Cymera llond llwy bwrdd o gwstard a byddi di’n…
Tywyllwch
Mae hi wedi nosi. Mae Daf y gath yn mynd am dro yn y tywyllwch. Dyw hi ddim yn gweld yn dda yn y tywyllwch. Mae hi angen help. Felly, mae Dewi Sant yn mynd am dro gyda Daf. Ond mae Dewi Sant yn casáu mynd am dro, felly mae e’n cwyno’n ddi-baid. Mae e’n…
Hyfforddiant
Mae Daf y gath wedi cael syniad gwych am fenter newydd. Mae hi’n bwriadu agor garej. – Y dwpsen, meddai Jeff ei chwaer. – Ti wedi bron dinistrio pob un o dy fannau di hyd at hyn. Ti ddim yn gwbod dim byd am gerbydau. – Dyna pam dwi am fynychu hyfforddiant, meddai Daf yn…
Diwrnod Owain Glyndŵr
– Oes rhywbeth werth ei ddathlu? gofynnodd Daf un tro. – Pam? Ti heb gael profiad seicedelig am sbel? ymatebodd Jeff ei chwaer. – Dwi am gynnal parti, meddai Daf. – Mae popeth wedi bod mor ddiflas yn ddiweddar. Yn enwedig i weriniaethwyr. – Beth am i ni ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ‘te? – Esgus…
Styc
Mae pawb ond yr hanner-siarc wedi gadael yr ardd yn ystod y llifogydd o gwstard cariad Santes Dwynwen. Maen nhw’n aros mas tu fas ar y stryd. Mae’r hanner-siarc yn parhau i ymarfer nofio yn lle jyglo. Ond mae rhywbeth od yn digwydd. Wrth i’r hanner-siarc geisio mynd yn gyflymach, mewn gwirionedd, mae mwy o…
Nofio
Mae’r hanner-siarc bach yn rhydlyd o ran nofio. Y dyddiau hyn, mae e’n treulio’r mwyafrif o’i amser yn jyglo. Mae problem jyglo gyda fe, â dweud y gwir. Ond heddiw, mae e’n bwriadu ail-ddechrau. Yn anffodus, does dim pwll nofio yn yr ardd. Mae’r hanner-siarc yn edrych ar Santes Dwynwen a’i pheiriant cwstard. Mae e’n…
Draeniau
Mae Santes Dwynwen wedi gwneud gormod o gwstard cariad eto. Ar ddamwain. Wrth gwrs. Mae hi’n dweud bod rhaid iddi hi ymarfer cyn Dydd Santes Dwynwen, ond celwydd yw hynny. Mae hi’n methu rheoli’r peiriant cwstard yn iawn, dyna i gyd. Mae pawb yn yr ardd yn casáu’r stwff erbyn hyn. Amser gweithredu, meddylia Daf…
Brenin y selsig
Tra bod Franz Kafka a Samuel Beckett wedi bod yn byw gyda’i gilydd y tu mewn i’r piano, mae selsig Franz Kafka wedi mynd allan o reolaeth. Mae’r selsig wedi bod yn gwylio’r tatws, a chopïo’u henghraifft. Ond maen nhw’n fwy ffiwdal na’r tatws. Yn lle ethol Prifselsig, mae un selsigen wedi dod i’r amlwg…
