Mae Dewi Sant wedi rhoi ei sied ar dân ar ddamwain. Eto. Cwympodd i gysgu heb ddiffodd ei ffag. Erbyn hyn, mae uffern yn ffaglu’n ffyrnig yn yr ardd. – Mae rhaid i ni wneud rhywbeth, meddai Daf y gath i’w chwaer, Jeff. – Paid ag edrych arna i, meddai Jeff. – Mae’n rhy boeth…
Month: August 2022
Hwyl Fawr Samuel Beckett
Mae Daf y gath wedi cael hen ddigon o Samuel Beckett. Mae Samuel Beckett newydd orffen darllen darn diflas am jyglo yn uchel. Mae Daf yn cael syniad. – Bore da, Samuel Beckett, meddai Daf. – Bore da, Daf, meddai Samuel Beckett. – Hoffet ti fynd yn ôl i’r gwesty cathod? – Hoffwn. Plis. Mae…
Hwn
Mae Daf y gath yn yr ardd, yn llyfu ei thraed. Dw i’n hoffi’r ardd ‘ma, meddylia Daf. – Dw i’n hoffi’r ardd hon hefyd, meddai Jeff ei chwaer, wedi darllen meddyliau Daf. – Wyt ti’n hoffi’r sied ‘na? gofynna Daf. – Nadw, dw i’n casáu’r sied honna. – Beth am y powlenni o gwstard…
Cymryd
Mae Daf y gath yn teimlo’n sâl. Mae pen tost arni hi achos ei bod hi wedi bod yn cysgu gormod. Mae’r staff yn ceisio rhoi tabledi iddi hi. Mae hynny’n achosi brwydr fawr fel arfer. Ond, yn y pen draw, mae Daf yn cymryd ei chyffuriau a llyncu’r tabledi fel cath dda. Ond mae…
Traeth
Mae Jeff y gath wedi bod yn hela ar y traeth. Mae hi wedi dal crancod, cregyn bylchog, a bom Ail Ryfel Byd. Nid yw’r bom yn ffitio i mewn i’w bwced hi. Yn sydyn, mae rhyw ddyn tew â gwyneb coch yn dechrau gweiddi ar Jeff. – DIM CŴN AR Y TRAETH! – Beth?…
Gwyliau
Mae Jeff a Daf ar eu gwyliau gyda’r staff ar lan y môr. Mae hi’n troi’n nos. Mae hyn yn golygu y bydd Jeff y gath yn mynd i hela’r anifeiliaid lleol. Mae ganddi hi fwced, ac mae hi’n rhyfeddol o gryf. Mae hi’n diflannu i’r tywyllwch. Cyn bo hir mae crafu wrth y drws….
Jyglo dirfodol
Mae’r hanner-siarc yn jyglo wrth i Samuel Beckett ddod heibio. – Ga i’ch gwylio chi, plis? gofynna Samuel Beckett i’r hanner-siarc. – Cewch, wrth gwrs, meddai’r hanner-siarc yn barchus. Mae Samuel Beckett yn dechrau cymryd nodiadau mewn llyfr du bach, a thynnu lluniau â phensil sy’ wedi cael ei gnoi’n dda. – ‘Dych chi eisiau…
Diarddel
Mae Franz Kafka’n hapus achos bod Samuel Beckett wedi penderfynu aros yn y gwesty cathod. Mae Samuel Beckett yn hapusach na Franz Kafka achos ei fod e’n aros mewn lle tynn. Mae selsig Franz Kafka’n hapusaf oll, oherwydd nad ydyn nhw’n cael eu harteithio bellach. Ond mae problem. Does neb wedi talu am arhosiad Samuel…
Aros
Mae’r cathod wedi gwisgo cotiau glaw amdanyn nhw er mwyn iddyn nhw berswadio perchennog y gwesty cathod taw nhw yw perchnogion Samuel Beckett, a’i gasglu. Maen nhw’n edrych yn hurt. Mae Daf y gath yn cnocio ar y drws. Mae perchennog y gwesty cathod yn ateb. – Yr ydym wedi dod i nôl Samuel Beckett,…
Colled
Mae’r cathod ar eu ffordd i’r gwesty cathod er mwyn achub Samuel Beckett. Mae Jeff wedi penderfynu bomio’r sefydliad. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, mae Jeff y gath yn sylweddoli bod y bom wedi diflannu. – Daf? – Beth? – O’t ti fod i ofalu am y bom. Ble mae e? – Dw i ddim…
