Annwyl Dewi, Bydd rhaid i ti ddysgu rheoli’r cathod ‘na. [Dim gobaith, meddylia Dewi.] Yn anffodus, does dim arian ar ôl i ni, wedi imi wario eitha lot ar fy ngwyliau. Felly, does dim cyfle i ti gael sied newydd. Bydd rhaid i ti rewi fel pawb arall. [Wel, diolch yn fawr, eich mawreddi.] Paid…
Month: August 2022
Llythyr Dewi Sant at yr Esgob
Annwyl Esgob, Yr ydwyf yn ysgrifennu atoch er mwyn eich gofyn am gymorth. Gwn yn iawn nad ydych yn hapus fy mod wedi colli fy eglwys. Byddwch yn llai hapus byth fy mod wedi colli fy sied hefyd. Mae’r cathod wedi’i thynnu i lawr iddi fod yn goed tân. Erbyn hyn, cysgaf mewn basged gydag…
Gŵyl y banc
Gŵyl y banc yw hi heddiw. Ond nid yw’r cathod yn gorffwys. Maen nhw’n tynnu sied Dewi Sant i lawr a pharatoi coed tân er mwyn iddyn nhw fod yn barod ar gyfer cadw’n gynnes dros y gaeaf. – Ble ‘r ydw i fod i gysgu? gofynna Dewi Sant. – Ym masged gyda Franz Kafka….
Chwiorydd
Mae Beryl, chwaer Santes Dwynwen, wedi ysgrifennu llythyr at Santes Dwynwen i ddweud bod hi’n dod i ymweld â hi. Dyw Santes Dwynwen ddim yn hoffi ei chwaer o gwbl achos bod Beryl yn ystrywgar. Mae ei phlant yn debyg. Mae Beryl wedi eu dysgu nhw’n dda. Mae Santes Dwynwen a Jeff y gath wedi…
Carthion
Mae’r ardd wedi cael ei sgubo i ffwrdd gan lanw o garthion. Dyw Daf y gath ddim yn gwybod beth i’w wneud na beth i’w feddwl. Dyw Santes Dwynwen ddim yn gwybod a ddylai hi chwerthin neu grio. Mae Dewi Sant ym mudreddi i gyd. Ond dyw e ddim yn meindio. Mae e wedi meddwi,…
Basged Franz Kafka
Mae Samuel Beckett yn dal i fod yn sownd yn nhy bychan perffaith Franz Kafka. Mae Franz Kafka yn cysgu o dan lwyn unwaith eto. Druan arno fe. Mae Daf y gath yn teimlo piti drosto fe, ond dim digon o biti i wneud rhywbeth. Digwydd bod, mae’r hanner-siarc yn jyglo â phedair basged fach….
Wyau
Un tro, roedd Daf y gath yn edrych ar flwch o wyau a oedd wedi ymddangos yn yr ardd. – Beth yw hwnna? gofynnodd Daf i Jeff ei chwaer wrth iddi basio. – Sai’mod, meddai Jeff. – So fe’n edrych fel bacwn na catnip, ‘ta beth. Felly sdim ots ‘da fi. Ti’n mynd i agor…
Tŷ Franz Kafka, rhan 4
Mae tŷ bychan perffaith Franz Kafka wedi’i gwblhau. Mae e’n las, â phlac ar y wal sydd yn dweud “Franz Kafka”. Mae Franz Kafka yn paratoi i symud i mewn. Mae e wedi pacio’i selsig i gyd, a phowlen o gwstard (anrheg housewarming gan Santes Dwynwen). Ond mae ‘na broblem. Wrth i Franz Kafka agor…
Tŷ Franz Kafka, rhan 3
Fel arfer, mae Dewi Sant yn anwybyddu’r tatws. Dyw e ddim yn hoffi pethau swnllyd. Mae’n well gyda fe dreulio’i amser yn dawel yn ei sied yng nghwmni potel o win. Ond mae e wedi gwylio’r Prifdaten yn lladd y tatws fesul un. Ac am unwaith, mae e’n mynd i wneud rhywbeth. Mae e’n mynd…
Tŷ Franz Kafka, rhan 2
Mae llawer o waith yn digwydd yn yr ardd. Mae’r tatws yn mynd i adeiladu tŷ bychan perffaith i Franz Kafka. Ond yn gyntaf, mae angen brics. Mae’r pridd yn Ffosgoch yn llawn dop o glai, sydd yn ddelfrydol. Ond mae’r ddaear yn galed iawn oherwydd y sychder diweddar, felly mae’r tatws methu palu ynddo…
