Mae Franz Kafka wedi cael llond bol o gysgu o dan lwyn. Mae e wedi blino drwy’r amser, ac mae ei gefn e’n brifo. Hefyd mae angen rhywle diogel i gadw ei selsig arno fe. Mae e wedi cael syniad. Mae Dewi Sant wedi adeiladu sied yn yr ardd, ac erbyn hyn mae e’n byw…
Month: August 2022
Ofn bwyd
Mae Daf y gath wedi cael tabled. Nawr, mae hi’n ofni ei bwyd. – Pam nad wyt ti’n bwyta dy fwyd? gofynna Jeff ei chwaer. – Dw i’n ofni y gallai’r staff fod wedi rhoi tabled yn y bwyd. – Paid â bod yn dwpsen. Os oes angen arnat ti gymryd tabled, bydd y staff…
Dim bara
Mae Santes Dwynwen wedi rhedeg mas o fara. – Heb fy mara, meddai hi wrth Daf y gath, – alla i ddim gwneud brechdanau cwstard. – Diolch byth, meddai Daf. Mae Dewi Sant wedi rhedeg mas o fara hefyd. Fydd ddim brechdan caws iddo fe heddiw. Mae e’n cwyno wrth ysmygu ffag fel arfer. –…
Allweddi
Dyma Daf y gath a’i chwaer Jeff yn yr ardd. – Jeff, ble mae’r allweddi? – Pa allweddi? – Yr allweddi pwysig. – Dw i ddim yn gwybod. Does dim ots gyda fi. Dyma Franz Kafka, yr awdur enwog. Mae Franz Kafka wedi bwyta’r allweddi. Saesneg / English Keys Here are Dave the cat and…
Caffi
Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn esgus taw caffi yw sied Dewi Sant, er mwyn ei ddygnu. – Helo, meddai Daf wrth Dewi Sant. – Ga i goffi mawr efo llefrith a dau siwgr plîs? – Does dim siwgr gyda fi, ateba Dewi Sant. – Does dim llaeth ychwaith. – Felly, ga i…
Stormus
Mae’r storm wedi dod. Mae hi’n bwrw hen wragedd a ffyn. Mae Jeff y gath wedi bod yn ddoeth iawn. Mae hi wedi ceisio lloches yn sied Dewi Sant, ymhlith y blychau o fwyd cathod. Dyw Daf y gath byth yn ddoeth. Mae hi mas yn y storm. Nid oes ganddi ymbarél. O blydi hel….
Toriad
Mae’r tywydd wedi torri. Ond yn lle bwrw glaw, mae hi wedi bwrw pannas. Mae panasen yn taro Daf y gath ar ei phen hi. – Hei, stopiwch hynny, meddai Daf. Ond mae’r banasen yn ymosodol iawn, a pharhau i daro Daf â rhaw fechan. – Gobeithio bydd hi’n bwrw Owennau cyn bo hir, meddylia…
Gweiddi
Mae’r Prifdaten newydd yn gweiddi ar bawb a phopeth. Mae e eisiau profi ei fod e’n bwysig. Erbyn hyn, mae’r syched wedi parhau am flynyddoedd. Neu dyna sut mae’n teimlo. – Diolch byth, meddai Daf y gath, yn edrych ar rhywbeth yn y nefoedd. – Dyna gwmwl. Bydd ‘na law o’r diwedd. Mae’r Prifdaten yn…
Y Carcharor
Mae’r ardd wedi newid. Mae paent lliwgar dros y lle i gyd, ac mae Dewi Sant wedi ail-adeiladu ei sied mewn steil Eidalaidd. Mae Daf y gath yn mynd i weld Dewi Sant. – Helo Dewi Sant, meddai Daf. – DIM ENWAU. Fi yw’r rhif dau newydd. – Pwy yw rhif un? – Ti yw…
Aberth
Mae Prifdaten newydd yn arwain y tatws. Mae e’n swnllyd ac yn rhwysgfawr, ac mae e’n siarad mewn priflythrennau. – HEDDIW MAE’R DUWIAU’N DISGWYL ABERTHAU CYN I NI GAEL GLAW. PWY SYDD EISIAU BOD Y CYNTAF? Tawelwch. Mae’r Prifdaten yn dechrau aberthu aelodau ei dîm ar hap â philiwr tatws. Mae startsh dros y lle…
