Roedd Daf y gath yn difaru dwyn sied Dewi Sant bron ar unwaith. Roedd hi wedi’i gyrru bant i Lundain gan obeithio anelu ei roced tuag at San Steffan, er mwyn dechrau ei ymgyrch i gymryd drosodd y byd i gyd. Fel yr oedd hi wedi dychmygu, roedd y cerbyd-adeilad yn gyflym iawn, ond sgrafangodd…
Month: January 2022
Perygl Baglu (Troli Siopa, rhan 5)
Roedd Daf y gath ar fin gyrru sied Dewi Sant bant pan agorodd y drws. Ymddangosodd Jeff rownd y gornel. – Daf, dw i ‘di câl syniad. – Dim syniad arall, griddfannodd Daf. – Be’ nawr? We fi ar fin gyrru bant ac wedyn anelu’r roced tuag at San Steffan i ddechrau’n ymgyrch i gymryd…
Panel (Troli Siopa, rhan 4)
Cerddodd Daf y gath o gwmpas Dewi Sant. Roedd angen panel o’r sied er mwyn creu arfedigaeth ar gyfer ei throli siopa. Heb arfedigaeth, basai’n amhosib iddi gymryd drosodd y byd i gyd, a basai hi wedi methu ei adduned Blwyddyn Newydd. Dewisodd panel neis iawn, yn agos at y drws. Ond, heb rybudd, ymddangosodd…
Arfedigaeth (Troli Siopa, rhan 3)
Yn gyfrinachol, roedd Daf y gath yn falch iawn gyda’i thegan newydd. Byddai’r roced a ddod Jeff â hi yn help mawr i gymryd drosodd y byd i gyd. Y peth nesaf yr oedd angen ei wneud oedd creu arfedigaeth ar gyfer y troli siopa. Edrychodd Daf o gwmpas yr ardd. Doedd dim byd addas….
Roced (Troli Siopa, rhan 2)
Y bore canlynol, tra oedd Dewi Sant yn arwain oedfa tu fewn i’w sied gyda’r Frenhines Branwen, edrychodd Daf y gath lan o’i thraed a gweld ei ffrind Jeff yn cario roced fawr yn ei cheg. – Tamed bach o anrheg i ti yw honna, meddai Jeff. – We fi am ddweud sori am dy…
Troli siopa
Un tro, ymddangosodd troli siopa yn yr ardd. Un newydd, sgleiniog oedd e, â llwnc bach ar ei ddolen ar gyfer darnau punt. Roedd Santes Dwynwen eisioes wedi dechrau’i llenwi â photiau o gwstard cariad, a rhedai Draig y ci o’i gwmpas yn frwdfrydig. Cyrraeddodd Jeff y gath galico, ar ôl taith “busnes” a gweld…
Y Pla – rhan 4
Un tro, roedd Jeff y gath yn cadw ei adduned Blwyddyn Newydd ac yn anwybyddu Daf yn gyfan gwbl. Roedd hi’n crafu’n frwdfrydig. Aeth y pla ymlaen. – Daf, dere fan hyn, meddai’r pla, yn chwifio ei dentaclau, – dw i angen dy help di. – Iawn, meddai Daf y gath, heb ddiddordeb. Roedd hi’n…
