Un tro, roedd Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd er mwyn ennill bach o arian. – Jeff, drycha, meddai, yn dangos taflen iddi, – Mae ‘na gystadleuaeth lenyddol eleni. Rhaid i ni gyd sgwennu rhywbeth. Hanner can punt a blwch o greision ŷd yw’r wobr. Rholiodd Jeff ei llygaid. – So fi’n…
Month: January 2022
Cerbyd newydd (Hela moch eto, rhan 4)
Mae Jeff y gath yn cyrraedd yr ardd ar ôl taith fyr yn ei cherbyd newydd, sef y blwch cardbord. Dyw’r blwch ddim wedi dal moch, ond mae e’n gyflym iawn. Mae hi’n cael ei chyfarch gan Draig y ci, sydd yn gwisgo mwgwd mochyn a wedi’i orchuddio â phaent pinc. – Beth yw hwnna?…
Hela moch eto, rhan 3
Mae problem gyda Franz Kafka. Mae e’n ceisio hela moch yng nghwmni Jeff y gath, achos ei fod e eisiau gwneud selsig, a bod hi eisiau gwneud bacwn, ond dydyn nhw ddim wedi mynd yn bell. Fel offer, mae gyda phob un ohonyn nhw ffon a blwch cardbord. Allwch chi ddyfalu beth sy’n digwydd? Yn…
Hela moch eto, rhan 2
Mae Daf y gath yn siarad â’r Archfadarch. Mae syniad gyda hi. Mae hi’n mynd i chwarae tric ar Jeff. – Dw i’n mynd i wisgo lan fel mochyn, er mwyn chwarae tric ar Jeff, meddai Daf i’r Archfadarch. – Mae hynny’n swnio’n beryglus iawn i fi, meddai’r Archfadarch. – Fe allet ti bennu lan…
Hela moch eto, rhan 1
Mae Jeff y gath eisiau bacwn. Ond dyw hi ddim yn hoffi halen. Mae halen yn niweidiol i gathod. Felly mae Jeff eisiau gwneud ei bacwn ei hun. Ond yn gyntaf, mae hi angen dal mochyn. – Daf, meddai Jeff, – Wyt ti wedi gweld moch yn yr ardd? – Nadw, meddai Daf y gath,…
Anrheg (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 10)
Mae’n Ddydd Santes Dwynwen heddiw. Mae Santes Dwynwen yn y sied gyda Dewi Sant. Mae’r sied yn siglo o ochr i ochr. Does neb yn dweud unrhyw beth. Mae Daf y gath yn dod draw i Jeff. – Dydd Santes Dwynwen Hapus. Mae gyda fi anrheg i ti, meddai Daf. – Cwstard cariad yw e,…
Cadwyn Gariad (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 10)
Mae Santes Dwynwen yn llefain eto. Mae Santes Dwynwen wedi cwympo mewn cariad â Dewi Sant. Mae Dewi Sant wedi cwympo mewn cariad â’r Frenhines Branwen. Mae’r Frenhines Branwen (a dyma syndod) wedi cwympo mewn cariad â Franz Kafka. Mae Franz Kafka wedi cwympo mewn cariad â selsigen (wrth gwrs). Mae’r selsigen wedi cwympo mewn…
Chwain
Mae Daf y gath yn crafu’n wyllt. Bag o chwain yw hi. Mae Jeff yn cadw draw oddi wrthi hi. – Paid â dod yn agosach, meddai Jeff. – Dw i ddim eisiau chwain. Heb rybudd, mae Daf yn rhuthro’n fwriadol tuag ati hi, a rhwbio ei hun ar hyd ochrau Jeff cyn i Jeff…
Rhedeg mas o syniadau (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 8)
Dyw Jeff y gath ddim yn hapus gyda Daf. Mae mentrau busnes Daf wastad yn hollol dwp. Dyw hi ddim wedi gwneud dim elw o gwbl. – Felly… meddai Jeff, yn grac nawr, – Rwyt ti wedi gwneud i Santes Dwynwen lefain, mae Branwen a Dewi Sant yn socan… pa fath o gysyniad rhamantus sy’n…
Mordaith (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 8)
Mae Daf y gath wedi bod yn siarad gyda’r Frenhines Branwen. Mae hi wedi gweld hysbyseb Daf, a felly mae hi eisiau gwahodd Dewi Sant i fynd ar fordaith rhamantus Dydd Santes Dwynwen gyda hi, tamaid bach yn gynnar. – Na, paid, meddai Jeff y gath iddi hi. – Dwyt ti ddim yn gwybod beth…
