Mae Jeff y gath yn dod o hyd i daflen ar y llawr yn yr ardd. Hysbyseb yw e. MORDAITH RHAMANTUS DYDD SANTES DWYNWEN Rhowch atgofion prydferth i’ch cariad Cysylltwch â Daf y gath am ragor o wybodaeth neu ail-ddarllen y daflen hon – Daf? meddai Jeff. – Ie? – Rwyt ti ond yn mynd…
Month: January 2022
Menter bwced (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 6)
Mae pawb yn cyrraedd gartref yn y bwced. Roedd Jeff yn gywir – roedd y bwced yn gyflymach na’r blychau. – Tybed sut ddigwyddodd hynny, meddai Jeff. – Byddai’n well i ti beidio gofyn, meddai Daf. Mae Daf y gath yn edrych ar Santes Dwynwen. Mae hi dal yn diferu cwstard o’i chwmpas. – Jeff,…
Bwced (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 5)
Mae Santes Dwynwen yn llefain. Mae hi wedi ei gorchuddio â chwstard, ac yn diferu’n drist. Mae hi wedi cael hen ddigon o gwstard cariad. Mae hi wedi cael hen ddigon o fod yn Santes. Mae hi wedi cael llond bola o bopeth. Mae hi eisiau mynd adre. – Beth am i ni jyst cael…
Blychau (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 4)
Mae Dewi Sant yn baglu allan o’r tafarn yng Ngwlad Pwyl, cyn baglu dros bentwr o flychau eraill. Mae e wedi bod yn yfed yn drwm, ac mae e’n ceisio tanio ffag gyda hen feiro. Heb lwyddiant, wrth gwrs. Ond mae e’n parhau i fod yn ddryslyd. Pam nad yw’r ffag yn tanio? Cyn iddo…
Blwch (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 3)
Mae Daf y gath yn esbonio ei syniad am fenter busnes newydd wrth Dewi Sant. Mae Dewi wedi tanio ffag ac agor potel o gwrw, ac mae e’n gwrando’n astud. – …a felly galla i dy ddosbarthu at dy gariad di ar ddydd Santes Dwynwen. Am daliad bychan. – Beth fydd rhaid i fi wneud?…
Anrheg (Dydd Santes Dwynwen 2022, rhan 2)
Mae Santes Dwynwen yn ymlacio yn yr ardd ar ôl iddi dacluso popeth. Mae hi’n rhannu potel o gwrw gyda Dewi Sant pan mae’r dyn y post yn cyrraedd a gollwng blwch yng nghanol y glaswellt. Mae’r blwch yn edrych fel anrheg. Mae e wedi cael ei lapio mewn papur lapio, ac mae rhubanau ym…
Cardiau
Mae Daf y gath wedi bod yn brysur iawn. Mae hi wedi dod o hyd i ddarn o bapur ac ysgrifbin, ac mae hi’n canolbwyntio’n galed iawn ar rhywbeth, gyda’r ysgrifbin yn ei cheg. Mae Jeff yn dod i weld beth sydd yn digwydd. – Beth wyt ti’n gwneud, Daf? meddai hi. – Mae gyda…
Paratoadau
Gan fod mis Ionawr wedi dechrau, mae Santes Dwynwen yn paratoi ar gyfer ei dydd sbesial hi. Mae hi’n ceisio tacluso’r ardd, cael gwared o selsig Franz Kafka wedi’u cuddio, ac yn y blaen, ond gwaith caled yw e, achos bod yr ardd mewn llanast llwyr. Mae Jeff y gath yn dod heibio, gyda ffon…
Anghyffyrddus (Troli Siopa, rhan 8)
Pan gyrraeddodd Daf y gath yr ardd, gwelodd hi olygfa anghredadwy o ddieithr. Roedd Dewi Sant yn eistedd yn y troli siopa, gyda’i photeli o win a chwrw o’i gwmpas. Roedd yn gawr o ddyn, felly oedd y troli siopa’n anghyffyrddus iawn iddo. – Be’ ti neud fan’na? gofynnodd Daf, heb ddiddordeb, ar ôl iddi…
Interliwd – Bacwn (Troli Siopa, rhan 7)
Cymrodd Daf y gath bach o amser i gyrraedd yr ardd ar ôl iddi cael ei harestio. Rhyfeddai at ba mor gryf oedd Jeff, er ei fychander. Gwaith caled oedd cario roced. Yn y cyfamser, roedd Jeff yn dadlau gyda’r staff. – Oes ‘na facwn? We fi’n disgwl bacwn rhywbryd. – Nag oes, Jeff, ‘ti…
