
Mae’r perthynas rhwng yr enwog Bryn Teribl a’i agorwr tuniau wedi datblygu’n sylweddol.
Mawredd.
Erbyn hyn, mae Bryn yn ystyried yr agorwr tuniau’n ffrind. Dyw e ddim wedi profi perthynas mor agos o’r blaen.
Mae Daf y gath wedi trio dwyn yr agorwr tuniau droeon, heb lwyddiant, o achos bod Bryn yn ei gadw o dan ei obennydd, fel gangster gyda’i ddryll.
Ond nid dryll mohono. Ffrind yw e. Annwyl ffrind.
O, Bryn.