
Mae’r hydref wedi cyrraedd. Mae’r plant yn dychwelyd i’r ysgol, ac mae pawb yn teimlo’n ddiflas.
Pawb, hynny yw, ac eithrio Daf y gath.
Pam nad yw Daf yn teimlo’n ddiflas?
Mae hi wedi cael syniad am fenter newydd. Bydd hi’n defnyddio hen nicars Santes Dwynwen i greu sgarffiau atyniadol.
— Daf, pam wyt ti’n gwisgo pâr o nicars o gwmpas dy wddwf? gofyn Jeff.
Efallai bod angen mwy o waith creadigol ar y cynllun.