
Mae Daf y gath a Dewi Sant ynghanol y cylch cerrig yng Nghaerafa. Roedden nhw’n chwilio am y grŵf.
Mae morwr o’r dyfodol wedi dod, a mynd.
Yn sydyn mae’r ddaear yn dechrau siglo.
Mae cerrig y cylch cerrig yn cerdded o’u cwmpas!
Ai dyna effaith cyffuriau’r siaman?
Nac ydy. Mae’r cerrig wir yn cerdded. Wel, roedden nhw’n cerdded. Nawr maen nhw’n dawnsio. Mae ganddyn nhw’r grŵf!
Oes bosib i Daf gael y grŵf yn ôl, felly?
Mae’n dibynnu pa mor fodlon yw Daf i ymuno â’r dawns. O, ac mae’r cerrig am gael Dewi Sant fel aberth.
O diar.