
Mae’r enwog Julian Rope, y Gwrthbab, wedi clymu’r Daf y gath a Dewi Sant meddw ynghyd ynghanol cylch cerrig Caerafa.
Roedd Daf yn chwilio am y grŵf, ond doedd hi ddim yn disgwyl hyn i gyd.
Mae Daf yn deffro ym mherfeddion nos.
Mae’r sêr yn pefrio, ac mae awel ysgafn yn chwythu heibio i’r cerrig.
A fydd y grŵf yn ymddangos?
Efallai.
Efallai ddim.
Yn bendant ddim.
Dyma forwr yn ymddangos yng nghanol y cylch cerrig yn ei long. Mae e wedi dod o’r dyfodol. Mae ganddo wallt ffantastig a siwt arian steilus.
— Hei, Daf, medd y morwr. — Fi’n gwbod fod ti’n chwilio am y grŵf, ond dychmyga fod y grŵf eisoes y tu mewn i ti.
— Ond sana i ‘di b’yta fe, etyb Daf yn or-lythrennol.
— Stad meddwl yw’r grŵf, medd y morwr, a rhwyfo’n ôl i’r dyfodol.