In sied fridio Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol, ma Santes Dwynwen ‘di câl babi.

Am annishgwl!
Pwy yw tad i babi? Un o’r seintie ‘na sy’ in i sied hefyd yw e?
Nage. Beichiogi Dihalog arall wedd e.
Am anghyfleus! Beth fydd in digwydd i Gristnogeth?
Pwy a ŵyr, ond ar hyn o bryd ma’r baban sanctaidd in sgrechlyd ac in mynd in dân ar grwên Harri Benwyn.
Ma Daf y gath in codi pawen.
— Dyfais blot gyfleus yw’r babi, fel bod ‘na nemesis i’r uffernol Harri Benwyn? gofyn Daf.
Ie, Daf. Da iawn ti.