Mae Daf y gath wedi newid. Sut hynny? Mae hi wedi tyfu coesau ychwanegol. Faint o goesau ychwanegol sydd ganddi? Mae pedair coes newydd ganddi. Nefoedd yr adar. Felly, mae Daf y gath wedi troi’n gorryn. Mae hi wedi gweu gwe a phopeth. Ond gan nad yw Daf yn heliwr llwyddiannus, dim ond bresychen mae…
Month: April 2025
1243: Pomgranad
Mae Santes Dwynwen wedi dod o hyd i hen bomgranad wrth dacluso gweithdy Dewi Sant. Mae’r pomgranad wedi dechrau pydru. Mae’n amlwg bod y pomgranad wedi gweld ei ddyddiau gwell. Mae Santes Dwynen yn symud y pomgranad yn ofalus. Mae’r drewdod yn codi ofn ar Daf y gath. Yn sydyn, mae ysbryd yn ymddangos. Mae…
1242: Grawnffrwyth
Mae Santes Dwynwen wedi dod o hyd i hen rawnffrwyth ymhlith yr holl ysbwriel yng ngweithdy Dewi Sant. Mae’n galed iawn. Mae’r grawnffrwyth wedi sychu. Mae Santes Dwynwen yn dechrau gloywi’r grawnffrwyth. O diar. Mae ysbryd yn ymddangos. Mae golwg sych arni hi. — Myfi yw ysbryd y grawnffrwyth, medd yr ysbryd. — Yn amlwg,…
1240: Tew
Mae grŵp o hereticiaid yn cael paned yng nghanolfan grefft Dewi Sant. Maen nhw’n hereticaidd iawn. Maen nhw’n dweud bod yr Archesgob yn dew, a honni bod yr Iesu yn hoff iawn o wisgo het gron. Mawredd. Yn ffodus iddyn nhw, mae’r Archesgob yn dal i fod yn ei gawell. Mae’r enwog Bryn Teribl yn…
1239: Hereticiaid
Mae Owain Glyndŵr wedi bod yn brysur. Mae e wedi adeiladu cannoedd o dai. Mawredd. Mae stad newydd Tudno Sant wedi’i gwblhau. Ond mae Daf y gath yn sylwi ar grŵp o bobl aflêr sy’n nesáu. O na. Mae’r hereticiaid wedi troi lan. Beth mae hereticiaid yn ei wneud? Maen nhw’n dweud a gwneud pethau…
1238: Jiráff
Mae jiráff ynghanol safle datblygu Tudno Sant. Sut cyrhaeddodd hwnnw? Ar gefn lori. Rhaid bod Owain Glyndŵr wedi ei archebu. Jiráff gwrywaidd yw e? Mae’n amhosib dweud. Pam? Achos bod Daf y gath wedi rhoi’r jiráff mewn bag. Mae hi’n mynd i anfon y jiráff yn ôl. Saesneg / English Giraffe There is a giraffe…
1237: Chwibanu
Mae Santes Dwynwen a Jeff y gath yn mynd i weld beth sy’n digwydd ar y safle datblygu. Mae Santes Dwynwen yn gwisgo ei gwisg orau. Mae hi’n edrych yn bert iawn o leian. Mae Jeff y gath yn gwisgo coler glas newydd. Mae’r enwog Bryn Teribl a‘i efell Owain Glyndŵr yn dechrau chwibanu ar…
1236: Weirio
Ar y stad newydd, mae Bryn Teribl wedi llwyddo i adeiladu tŷ o’r diwedd. Bydd angen gwasanaethau. Pwy fydd yn weirio’r tŷ? Oes trydanwr ar gael? Nac oes. Ond dyma Waldo Williams, gyda blwch o hen offer. O diar. Cyn bo hir, mae tŷ newydd Bryn Teribl wedi mynd ar dân. Mae Daf y gath…
1235: Llwyd
Pam mae Daf y gath yn llwyd? Pwy a ŵyr. Arhoswch am eiliad. Pam mae Daf y gath yn solet? O, Bryn, beth wyt ti wedi wneud? Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn cymysgu concrit, ac mae’r ynfytyn Owain Glyndŵr wedi arllwys y cwbl lot dros Daf y gath. Druan â Daf. Fydd hi’n…
1234: Llwch
Mae safle datblygiad Tudno Sant yn achosi llawer o lwch. Yng nghanolfan grefft Dewi Sant, mae haen drwchus o lwch dros bopeth. Mae llwch ar sigaréts Dewi. Mae llwch yng nghwstard ffiaidd Santes Dwynwen. Mae llwch ar feic modur Waldo Williams. Arhoswch am eiliad. Pwy sy’ wedi bod yn bwydo’r Archesgob yn ei gawell tra…
