Mae Dewi Sant wedi bod yn dawel iawn yn ddiweddar. Beth mae e’n wneud? Mae’r Daf y gath wreiddiol a’r Daf newydd (y Waldo Williams a fu) yn mynd i ymchwilio. Mae sŵn fel rhywun yn ceisio cael gwared â phelen ffwr yn dod o ystafell Dewi Sant. Mae Dewi Sant wedi diflannu! Mawredd. Yn…
Month: April 2025
1253: Daf newydd
Mae Waldo Williams wedi bod yn cael egwyl fach. Beth mae e wedi bod yn wneud? Pwy a ŵyr, ond does neb wedi ei weld ers bron i wythnos. Mae sŵn fel crafu yn dod o’i ystafell. Mae Daf y gath yn mynd i ymchwilio. Mae Waldo wedi diflannu! Yn ei le, mae cath sinsir….
1252: Uchelgeisiol
Bydd angen Pab newydd, ac mae Tudno Sant eisiau’r swydd. All sant ddod yn bab? Efallai. Efallai ddim. Mae’n gymhleth. Yn anffodus i Dudno Sant, mae’r Esgob eisiau’r swydd hefyd. Mae e’n uchelgeisiol iawn. Mae e wir eisiau gwisgo cap bach gwyn, rownd a chwifio ar ei bobl o ffenest y Fátican. Ydy Dewi Sant…
1251: Cragen long
Mae Dewi Sant wedi dod o hyd i gragen long ar gopa’r Wyddfa. Sut cyrhaeddodd honna yno? Pwy a ŵyr. Ond efallai bydd y gragen long yn gwneud lles i Dewi Sant fel anifail cymorth emosiynol. Efallai ddim. Pam lai? Achos bod gan Dewi Sant anifail cymorth emosiynol yn ei boced yn barod. Beth yw…
1245: Ciwcymbr
Mae Santes Dwynwen wedi dod o hyd i giwcymbr. Yn anffodus mae Dewi Sant yn feddw eto, ac felly mae e’n gwneud jôc fudr. Mae e hefyd yn ceisio adrodd y jôc am y sebon a’r lleianod ond mae e’n difetha’r llinell glo drwy wneud camgymeriad. Mae Santes Dwynwen yn rhoi’r ciwcymbr i Jeff y…
1250: Yr Wyddfa
Mae Dewi Sant wedi dringo’r Wyddfa er mwyn osgoi’r Protestaniaid. Nid oedd hynny’n syniad call. Mae Dewi’n fyr ei anadl ac yn agos at farwolaeth. Mae Daf y gath, ei Gath Achub, yn rhoi sloch o frandi iddo. Am wyrth! Mae Dewi Sant wedi adfer yn syth. Haleliwia! Mae Daf y gath yn tynnu hunlun…
1249: Mynydda
Mae Dewi Sant wedi penderfynu osgoi’r Protestaniaid drwy roi go ar fynydda. Ydy Dewi Sant wedi trio mynydda o’r blaen? Nac ydy. Ydy e’n ffit? Nac ydy. Mae e’n yfed gormod o frandi ac ysmygu deugain sigarét bob dydd. Mawredd yr adar. Rhaid bod osgoi’r Protestaniaid yn bwysig iawn iddo. Bydd Daf y gath yn…
1248: Tir diffaith
Mae’r Protestaniaid wedi prynu tir diffaith y drws nesaf i stad o dai newydd Tudno Sant. Beth maen nhw’n mynd i wneud? Gadewch i ni ffeindio mas. Mae Daf y gath yn mynd i ymchwilio. Ymddengys eu bod nhw wrthi’n ceisio sefydlu pwyllgor. Bydd hynny’n eu cadw nhw’n brysur am fisoedd. Hwrê! Saesneg / English…
1247: Protestaniaid
Mae’r Protestaniaid wedi troi lan. Maen nhw’n cwyno am bopeth. Mae Dewi Sant yn ymguddio yn ei weithdy ac mae Santes Dwynwen wedi gadael y wlad. Mawredd. Beth mae Daf y gath yn ei wneud? Mae Daf y gath yn canu emynau ofnadwy John Rýttr ar yr organ, er nad oes ganddi fodiau gwrthosodadwy. Mae’r…
1246: Chwiorol
Ydy lleianod yn chwiorol? Does gan Dewi Sant ddim profiad o leianod yng nghyffredinol, ond byddai’n ddigon teg tybio yr ydynt. Ydy cathod yn chwiorol? Wel. Dyw Daf y gath a’i chwaer Jeff ddim yn chwiorol o gwbl. Heddiw, mae Daf y gath wedi dwyn ciwcymbr Jeff, er nad oes ganddi fodiau gwrthosodadwy chwaith. O…
