Ar ôl i Ceri Llwyd o’r Pandas Pink gael ei ddienyddio, mae baner newydd yn ymddangos yn hedfan o bolyn uwchben Crymych distopaidd y dyfodol. Beth sydd ar y faner? Pawen haearn. Mae Jeff y gath wedi penderfynu nad yw’r cathod wedi bod yn ddigon llym. Bydd mwy o drefn o hyn ymlaen. Mawredd. Nid…
Month: February 2025
1200: Pen Ceri Llwyd
Mae’r fwyell yn disgyn. Mae’n cwrdd â’r blocyn â chnoc arswydus. Mae pen Ceri Llwyd, gitarydd Y Pandas Pinc, wedi’i dorri i ffwrdd gan yr enwog Kate Roberts yng Nghrymych dystopaidd 3025. Dyw Waldo Williams ddim yn gwybod beth i’w wneud. Mae e am fynd yn ôl i 2025 lle mae popeth yn gwneud synnwyr….
1199: Cyhoeddiad
Mae Crymych y dyfodol yn ddystopaidd iawn. Yn y flwyddyn 3025 mae Daf y gath yn rhedeg y sioe, ac mae Waldo Williams y gorffennol wedi gwylio Kate Roberts y dyfodol yn dienyddio pysgodyn o flaen torf fawr. Mae cerddoriaeth wael yn chwarae dros seinyddion ar yr heol fawr. Mae’r geiriau i gyd yn dathlu…
1198: Dienyddiad
Yng Nghrymych y dyfodol, mae’r bardd enwog Waldo Williams wedi bod yn meddwl tybed pam mae cerflun o Kate Roberts yn y sgwâr. Neu, yn fwy penodol, pam mae cerflun o’r enwog Kate Roberts yn dienyddio pysgodyn? Mae rhywun yn canu cloch, ac mae trigolion Crymych y dyfodol yn gorymdeithio i’r sgwâr, lle mae Kate…
1197: Y Daf dragwyddol
Mae Waldo Williams wedi mynd i Grymych y dyfodol o ganlyniad i reidio ei fotor-beic ar gyflymder o wyth deg wyth milltir yr awr. Er taw’r flwyddyn tair mil dau ddeg pump yw hi, mae Daf y gath yn dal i fyw. Am annisgwyl! Pam mae Daf y gath yn anfarwol? Pwy a ŵyr. Ydy…
1196: Y dyfodol
Mae Waldo Williams wedi mynd i’r dyfodol, achos yr oedd e’n rhatlan ymlaen ar ei fotor-beic ar gyflymder o wyth deg wyth milltir yr awr. Aeth y motor-beic ar dân, a nawr mae Waldo’n sefyll ynghanol y sgwâr yng Nghrymych wrth ochr ei weddillion mudlosg. Digwydd bod, mae’r dyfodol yn ddychrynllyd. Mae arwyddion Saesneg ym…
1195: Cyflymder
Mae Daf y gath wedi rhoi dyfais tracio o dan sedd motor-beic Waldo Williams, sy’ wedi sbîdo i ffwrdd ar ôl iddo fe gael gormod o goffi a Siwdaffed. Mae hi’n dilyn yr awdur enwog ar sgrîn ei dabled. Mae e’n rhuthro ar hyd y ffyrdd ar gyflymder o gan milltir yr awr. Dyw hynny…
1194: Ffeit
Mae’r enwog Waldo Williams am gael ffeit. Sori, beth? Wir i chi, mae’r enwog Waldo Williams am gael ffeit. Pam? Mae gormod o egni gyda fe, achos ei fod e wedi bod yn yfed gormod o goffi. O diar. Mae Daf y gath yn ei wylio e. Tybed beth fydde’n digwydd ‘swn i’n rhoi paced…
1193: Bwydo
Un o ddyletswyddau newydd yr Esgob, fel gwarchodwr i’r enwog Owain Glyndŵr, yw ei fwydo e. Nid yw hynny’n hawdd. Mae Owain Glyndŵr yn alergaidd i gyllyll a ffyrc. Ac mae e’n hoff iawn o daflu bwyd at y waliau. Beth sydd ar y fwydlen heddiw? Cawl Santes Dwynwen. O diar. Saesneg / English Feeding…
1192: Teganau
Mae’r Esgob yn dechrau ei swydd newydd fel gwarchodwr i’r enwog Owain Glyndŵr. Mae’r Esgob yn ceisio cael sgwrs ag e. — Beth yr ydych yn feddwl am faterion eciwmenaidd? gofyn yr Esgob. Dim ond gwenu mae Owain. — Rhowch ‘i degane iddo fe, awgryma Daf y gath. — Ma fe’n lico ‘i degane. Ond…
