Mae Oes y Capybaraod wedi dod i ben. Mae Bryn Teribl wrthi’n trwsio ei siop weldio’n dawel, ac mae Owain Glyndŵr wrth dennyn yn y buarth. Felly, am unwaith, mae popeth yn ei le. Mae Daf y gath wrth ei bodd. Mae hi’n gwylio Santes Dwynwen, sy’n sefyll wrth y cownter yn paratoi ei chwstard…
Month: January 2025
1175: Diflaniad
— Ble ma’r capybaraod di mynd? gofyn Jeff y gath i Daf. — Sai’mod, medd Daf. — Diflannon nhw cyn gyflymed ag y cyrhaeddon nhw. — Wes na rai ar ôl? — Gawn ni weld, medd Dewi Sant. Mae Dewi yn cario peiriant dieithr. Peiriant glanhau yw’r peiriant? Wel, mewn ffordd, ie. Synhwyrydd capybaraod yw…
1174: Terfysg
A’r cathod yn anfodlon parhau i berfformio, mae’r capybaraod yn codi terfysg ym muarth y ganolfan grefft. Maen nhw wedi rhoi llwyfan y sioe bypedi ar dân. O diar. Pwy sy’n mynd i achub y dydd? Nid Owain Glyndŵr; mae e wedi ffoi. Nid y cathod chwaith. Arhoswch funud. Pwy yw hwn? Yr enwog Swîp,…
1173: Sioe bypedi
Mae’r cathod yn cynnal sioe bypedi er mwyn trio cael gwared ar y capybaraod. — Pwy wt ti isie bod? gofyn Daf i Jeff. — Ga i fod Swti plîs? — Cei. Yna bydda i Swîp. Ond pwy fydd yn chwarae rhan Sŵ? Dyma Owain Glyndŵr, yn barod i actio. Mae’r sioe yn rhyfeddol o…
1172: Cnofilod
Mae’r tywydd wedi newid eto. Byddai Daf y gath yn fodlon mynd mas pe tasai’r capybaraod ddim yn y buarth o hyd. Dyw Daf ddim yn licio’r capabaraod. Fe gafodd hi brofiad erchyll oherwydd mochyn cwta flynyddoedd yn ôl ac felly mae cnofilod yng nghyffredinol yn codi ofn arni, heb sôn am gnofilod enfawr. Beth…
1171: Twmpath
Mae’r capybaraod wedi trefnu twmpath yn yr eira. Am olygfa. Pwy sy’n darparu’r gerddoriaeth? Wel, dyna gwestiwn da. Yn anffodus mae’r system sain wedi torri i lawr. Felly, mae’r enwog Bryn Teribl yn chwarae ei gitâr fas, ac mae e’n cael ei gyfeilio gan yr enwog Waldo Williams, sy’n chwarae’r llwyau, a’r enwog Kate Roberts,…
1170: Eira
Mae hi’n bwrw eira. Fel canlyniad, mae’r cathod yn gwrthod mynd allan. Ond am ryw reswm mae’r capybaraod yn neidio a champio mas tu fas yn yr oerfel. Beth yw’r rheswm dros eu llawenydd nhw? Dreamies Daf y gath, siŵr o fod. Arhoswch am eiliad. Os ydyn nhw wedi cymryd Dreamies seicedelig Daf, yna fe…
1169: Clirio
Sut mae clirio pla o gapybaraod oddi fewn i ganolfan grefft? Dyw Daf y gath ddim yn gwybod. Ond mae argyfwng yn datblygu. Mae’r capybaraod wedi bwyta’r Dreamies i gyd. Dyma’r enwog Bryn Teribl, sydd am achub y dydd. Beth wyt ti’n mynd i wneud, Bryn? — Weldo, medd Bryn. O diar. Saesneg / English…
1168: Ble mae’r capybara?
Ble mae’r capybara? Ydy e yn y cwpwrdd? Nac ydy. Ydy e yng ngweithdy weldio’r enwog Bryn Teribl? Nac ydy. Ydy e ar gefn beic modur Waldo Williams? Nac ydy. Ydy e yn yr oergell? Nac ydy. Ydy e’n ymbalfalu ym mag Dreamies Daf y gath? Ydy! O diar. Saesneg / English Where’s the capybara?…
1167: Y flwyddyn newydd
Mae pawb yn y ganolfan grefft yn awyddus iawn i ddathlu’r flwyddyn newydd. Mae Dewi Sant wedi prynu llawer o gwrw, mae Santes Dwynwen wedi gwneud llawer o gwstard ffiaidd, ac mae Bryn Teribl wedi rhyddhau Owain Glyndŵr o’r oergell. Ond mae problem. Mae Daf y gath yn sylwi ar anifail anghyffredin yn y buarth….
