1167: Y flwyddyn newydd

Mae pawb yn y ganolfan grefft yn awyddus iawn i ddathlu’r flwyddyn newydd.

Mae Dewi Sant wedi prynu llawer o gwrw, mae Santes Dwynwen wedi gwneud llawer o gwstard ffiaidd, ac mae Bryn Teribl wedi rhyddhau Owain Glyndŵr o’r oergell.

Ond mae problem.

Mae Daf y gath yn sylwi ar anifail anghyffredin yn y buarth.

— Jeff, beth yw hwnna? gofyn Daf i’w chwaer.

— Capybara yw e, etyb Jeff.

— Beth ma fe’n neud fan hyn?

— Sai’mod.

Yna, maen nhw’n sylweddoli bod capybaraod ym mhobman. O diar.

“Mae Daf y gath yn sylwi ar anifail anghyffredin yn y buarth.”

Saesneg / English

The new year

Everyone at the craft centre is very keen to celebrate the new year.

Saint David has bought a lot of beer, Saint Dwynwen has made a lot of disgusting custard, and Bryn Teribl has released Owain Glyndŵr from the fridge.

But there is a problem.

Dave the cat notices an unusual animal in the yard.

— Jeff, what’s that? Dave asks her sister.

— It’s a capybara, says Jeff.

— What’s it doing here?

— Dunno.

Then, they realise that there are capybaras everywhere. Oh dear.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.