Mae Daf y gath yn gwylio’r paratoadau yng ngwesty Dewi Sant. On’d ydyn nhw wedi bod yma o’r blaen? Mae hi’n teimlo fel ei bod hi’n profi rhyw fath o déjà vu. Bydd y Pandas Pinc yn cyrraedd cyn bo hir, mwy na thebyg. Mae hi’n cymryd llond ceg o catnip a chael gweledigaeth seicedelig,…
Month: December 2023
797: Gwesty Dewi Sant
Mae Dewi Sant wedi bod yn gwario mwy o arian yr eglwys eto. Mae e wedi prynu gwesty yn Wdig. Mae Daf y gath yn gwylio wrth i’r criw i gyd yn helpu Dewi a pharatoi ar gyfer yr agoriad. Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn adeiladu llwyfan yn y bar, lle bydd e’n…
796: Gwasgu
Mae sŵn od yn dod o’r bin, fel bod rhywun yn cael ei wasgu. Pam? Achos bod rhywun yn cael ei wasgu. Roedd Santes Dwynwen wedi pobi pobiad arall o mins peis, ond claddodd Dewi Sant y cwbl lot. Felly mae Dewi Sant wedi ymuno â’r enwog Julian Cope yn ymguddio rhag Santes Dwynwen yn…
795: Bin
Mae Daf y gath wedi rhoi ei chalendr Adfent hi yn y bin, rhag ofn i lun o’r noethlymun Esgob ymddangos o’r tu ôl i ddrws arall. Am ryddhad! Arhoswch am funud. Pwy sydd yn y bin? Dyma’r enwog Julian Cope, sydd yn ymguddio rhag Santes Dwynwen. Pam fod Julian Cope yn ymguddio? Mae e…
794: Noethlymun
Mae Daf y gath yn agor drws heddiw ei chalendr Adfent hi. Ar ôl sioc ddoe, mae hi bach yn nerfus. Mae hi’n agor y drws yn araf, gan obeithio bydd e’n dangos angel neu anrheg. O na. Does dim angel. Does dim anrheg chwaith. Dyma lun arall o’r Esgob. Ond y tro ‘ma, noethlymun…
793: Sioc
Mae Daf y gath yn agor drws arall ei chalendr Adfent hi. Beth sydd y tu ôl i’r drws? O diar. Dyma lun o’r Esgob! Does dim testun o’r Beibl, does dim esboniad na chyd-destun. Does dim ond llun o’r Esgob. Am arswydus. Mae Daf yn cau’r drws. Saesneg / English Shock Dave the cat…
792: Siopa Nadolig
Mae Dewi Sant am brynu anrheg Nadolig i Santes Dwynwen. Ond beth fyddai’n addas i’r Santes sydd gyda phopeth yn barod? Mae e’n bwriadu dal y trên i Gaerdydd. Yn anffodus mae rhaid iddo fe fynd heibio i dafarn ar ei ffordd i’r orsaf. O diar. Fydd ‘na ddim anrhegion i Santes Dwynwen eleni. Saesneg…
791: Papur
Mae Daf y gath yn agor ffenestr arall ei chalendr Adfent hi. Mae’r testun yn dweud rhywbeth am gesair, ac mae’r ddelwedd yn dangos cwpl o sgroliau a phentwr o arian. Efallai, dylwn i sefydlu ffatri bapur, meddylia Daf. Mae hynny’n sicr o ennill tamaid bach o arian. Nid dyna neges y calendr, wrth gwrs….
790: Newyddion Da
Mae Daf y gath wedi agor ffenestr arall ei chalendr Adfent. Ar gefn y ffenestr y mae testun. Y testun heddiw yw “ac wele, byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu.” Ond mae’r delwedd yn arswydus. Mae Santes Dwynwen, sydd bellach wedi colli ei hadenydd angel, yn dweud…
789: Brecwast
Mae Daf y gath yn rhythu’n hurt ar ei brecwast hi. Dyw hi ddim yn hollol sicr pam mae hi’n rhythu ar ei brecwast, ond dyna ni. Ydy’r brecwast yn mynd i symud? Nac ydy. Ond mae brecwast Jeff y gath yn symud. Mae brecwast Jeff y gath yn symud yn gyflym iawn. Llygoden fawr…
