Ble mae Dewi Sant? Mewn ogof yw e? Nac ydy. Dyw e ddim mewn ogof. Dyw e ddim yn feudwy. Mewn troli siopa yw e? Nac ydy. Dyw e ddim mewn troli siopa. Dyw e ddim yn fag negesau. Mewn peiriant golchi llestri yw e? Nac ydy. Dyw e ddim yn sosban. Ble mae e,…
Month: November 2023
763: Damweiniau
Wrth redeg ei farathon gyntaf, mae Owain Glyndŵr wedi cael damwain. Bwrodd e i mewn i goeden yn ei flwch cardbord ar gyflymder o ugain milltir yr awr. Am drychineb! Mae Owain Glyndŵr wedi cael damwain arall hefyd, ond fe wnawn ni anwybyddu’r ddamwain honno. Bydd rhaid iddo redeg pentigili i’r llinell derfyn, yn wlyb…
762: Cyflymach
Mae Owain Glyndŵr yn rhedeg marathon. Er ei fod e’n gwisgo ei arfwisg ysgafnaf, yn anffodus mae e’n teimlo’n flinedig iawn oherwydd iddo ddechrau’n orfrwdfrydig. Ac mae e eisoes yn diflasu. Yn sydyn mae e’n cofio hen fan Daf y gath. Mae e’n gweld blwch cardbord wrth ymyl y ffordd, tynnu lluniau o bedair olwyn…
761: Marathon
Mae’r enwog Owain Glyndŵr ar fin rhedeg marathon. Mae e’n gwisgo ei arfwisg ysgafnaf, ac mae e wedi dwyn paced o Dreamies oddi wrth Daf y gath fel tanwydd. Bydd yn gall, Owain! Ond dyw’r enwog Owain Glyndŵr byth yn gall. Pan mae’r pistol cychwyn yn cael ei danio, mae e’n dechrau rhedeg yn wyllt….
760: Chwaer
Mae Santes Dwynwen wedi mynd yn ôl i Ynys Llanddwyn. Pam? Gwnaeth ei chwaer hi droi lan. Mae chwaer Santes Dwynwen yn boen yn y pen ôl. Mae Jeff y gath wedi mynd gyda hi am bach o hoe. Mae Ynys Llanddwyn yn le tawel. Does neb yno i achosi trafferth, dim hyd yn oed…
759: Chwyrnu
Mae Santes Dwynwen am fynd yn ôl i’r tir sych. Mae hi wedi cael hen ddigon o fod mewn cwch yng nghwmni’r enwog Julian Cope a Daf y gath. Mae Julian Cope yn chwyrnu’n ombeidus. Does dim dianc. Efallai daliodd e annwyd yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel. Efallai bod llid y…
758: Casglu
Mae’r enwog Julian Cope yn casglu’r cathod dŵr-gerddedol i gyd at ei gilydd mewn rhwyd. – Ble gest ti dy rwyd, Julian Cope? meddai Santes Dwynwen. Doedd dim rhwyd yn y cwch o’r blaen. Ond dyw’r enwog Julian Cope ddim yn gwrando arni hi. Mae e’n ymddwyn yn ddirgel. Mae Daf y gath yn gwylio…
757: Cerdded ar y dŵr
Mae Santes Dwynwen a Daf y gath mewn cwch gwyrdd pysen del, yng nghwmni’r enwog Julian Cope, sydd wedi dod â chwpl o gathod ychwanegol. Mae un ohonyn nhw’n cerdded ar y dŵr. – Shwd ti neud ‘ny? gofyn Daf y gath. – Mae rhaid credu, meddai’r gath ddŵr-gerddedol. – Byddwn i’n suddo, ‘te, meddai…
756: Tylluan
Ar y cwch gwyrdd pysen del, mae Daf y gath wedi lladd tylluan. Mae Santes Dwynwen wedi clymu’r aderyn o amgylch gwddf Daf fel cosb. – Fi’n edrych fel twpsen, meddai Daf. – Ac mae’n drwm. – Mae hi i fod yn drwm, meddai Santes Dwynwen. – Mae hi i fod yn faich. Cosb yw…
