Mae’r enwog Bryn Teribl ben i waered yn gwneud llawsafiad yn y stryd yng Nghaerdydd. Mae cynulleidfa fawr yn ei wylio e. Ers faint yw e ben i waered? Ers tridiau y mae e ben i waered. Mae ei wyneb yn eitha coch erbyn hyn. Ond nawr, mae’r enwog Bryn Teribl yn dwysáu ei ymdrechion…
Month: November 2023
783: Llawsafiad
Mae’r enwog Bryn Teribl yn dal i wneud llawsafiad campus yn y stryd yng Nghaerdydd, wedi ymgodi o bensafiad. Mae e wedi denu cynulleidfa fawr. Ers faint mae Bryn Teribl wedi bod ben i waered erbyn hyn? Mae e wedi bod ben i waered ers echdoe. Am gamp! Â dweud y gwir mae e’n dechrau…
782: Mwy o fabolgampwyr
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn gwneud pensafiad yn y stryd yng Nghaerdydd. Ers pryd yw e wedi bod ben i waered? Mae e wedi bod ben i waered ers ddoe. Rhewodd e dros nos. Mae Dewi Sant wedi ymuno ag e dros nos. Doedd dim byd gwell gydag e i’w wneud. Doedd Dewi…
781: Pensafiadau
Mae’r enwog Bryn Teribl yn sefyll ar ei ben yn y stryd. Am annisgwyl. Dyw’r afreolus Owain Glyndŵr ddim yn gallu gwneud pensafiadau. Dyw ei synnwyr o gydbwysedd ddim yn ddigon da. Druan ar Owain. Pam mae’r enwog Bryn Teribl yn gwneud pensafiadau yn y stryd? Does neb yn gwybod. Efallai bod gormod o amser…
780: Tor carchar
Mae Dewi Sant wedi paratoi popeth ar gyfer tor carchar Daf a Jeff. Mae e wedi gwisgo’r enwog Bryn Teribl a’i efell, yr afreolus Owain Glyndŵr, fel cathod a dod â nhw i ymweld â’r cathod go iawn. Nawr, mae e’n gweddïo am wyrth. Bydd angen gwyrth. Mae e ar fin ceisio cyfnewid y gefeilliaid…
779: Llythyr Dewi Sant
Mae Dewi Sant wedi ysgrifennu llythyr a’i anfon at Daf y gath yn y carchar. Annwyl Daf, Yn anffodus mae’r awdurdodau wedi cau’r ffatri bara am byth. Ni fydd mwy o sudd Glyndŵr, gan eu bod wedi hepgor y cerwyni eplesu i gyd. Am drasiedi. Yr wyf wedi cael syniad da. Gwisgaf yr enwog Bryn…
778: Carchar am oes
Mae Daf y gath wedi cael ei hanfon i’r carchar. Eto. Beth yw ei throsedd y tro hwn? Mae hi wedi torri pob cyfraith hylendid bwyd trwy roi sudd Glyndŵr yn ei bara hi. Ych a fi. Doedd Jeff y gath ddim yn gyfrannog yn y trosedd, ond mae hi wedi cael ei hanfon i’r…
777: Hylendid bwyd
Mae uwch arolygydd hylendid bwyd wedi cyrraedd ffatri bara Daf y gath. O diar. – Dw i am weld popeth, meddai’r arolygydd. O diar. Yn anffodus, mae’r enwog Owain Glyndŵr newydd ddringo i mewn i’w gerwyn ar gyfer sesiwn arall o eplesu. Mae’r uwch arolygydd yn gweld popeth. Mae hi’n gweld Owain Glyndŵr yn eplesu…
776: Sudd
Gan fod ychwanegu sudd Glyndŵr i’r bara’n llwyddiant ysgubol, mae Daf y gath am roi shot ar eplesu pawb arall. Mae hi’n gofyn i Dewi Sant fynd i brynu cerwyni ychwanegol i’r ffatri. Pan mae Dewi’n dychwelyd gyda’r cerwyni, mae pawb yn barod yn eu gwisgoedd nofio nhw. Eplesu amdani! Pwy sy’n mynd yn gyntaf?…
775: Gwelliant
Yn ffatri bara Daf y gath, mae eplesiad yr enwog Owain Glyndŵr wedi dod i ben. Nawr, mae gan Dewi Sant gerwyn llawn o sudd Glyndŵr. Ych a fi. Fydd neb am yfed sudd Glyndŵr. Yna, mae Dewi Sant yn cael syniad. Mae e’n arllwys cynnwys y gerwyn i mewn i’r peiriant bara. Gawn ni…
