Bob Nadolig, mae Santes Dwynwen yn cael toriad gwallt cyn mynd mas am gwpl o goctêls. Yfwraig ysgafn yw hi, fel arfer, neu lwyrymwrthodwraig. Ond amser Nadolig, mae hi’n cwympo oddi ar y wagen a chael bach o hwyl. Y tro hwn, mae hi am gael bach o newidiad. Mae hi’n gofyn i’r triniwr gwallt…
Month: December 2022
433: Tun rhostio
Mae hi’n bwrw eira. Mae’r cathod wedi dwyn y tun rhostio. Maen nhw eisiau defnyddio’r tun rhostio fel tobogan. Ond does dim bryn yn yr ardd, heblaw am Bryn Terfel. Mae Bryn Terfel yn hoffi bananas, ond yn anffodus mae e’n hoffi tuniau rhostio hefyd. O na. Mae e’n tipio’r cathod allan o’r tun rhostio…
432: Ffrindiau Bryn Terfel
Mae Bryn Terfel wedi dod â’i ffrindiau i’r ardd am barti Nadolig. Maen nhw i gyd yn canu opera a bwyta bananas o gwmpas y goeden Nadolig. Mae’r canu yn mynd ar nerfau Daf y gath. Mae hi eisiau cael profiad seicedelig yn dawel o dan y goeden. Yn sydyn, mae’r Fari Lwyd yn ymddangos…
431: Selsig Nadolig
Mae Franz Kafka wedi dod o hyd i selsig Nadolig. Maent yn union fel selsig normal heblaw eu bod nhw’n medru canu carolau. Dyna broblem i Franz Kafka. Gan fod y selsig mor swnllyd, mae’n amhosib iddo fe’u cuddio nhw unrhyw le o gwbl. Ceisiodd ef eu cuddio nhw y tu mewn i’r piano, ond…
430: Trwyn gwyn
Mae llwyth o gocên yn yr ardd eto. Mae’r Prifdaten yn siarad yn gyflym iawn. Mae e’n bod yn hunanol ac yn rhyfygus. Llwch yw ei ddannedd ef erbyn hyn gan ei fod wedi eu malu i ffwrdd, ac mae e’n mynd yn grac yn haws nag arfer. Felly, yn hawdd iawn iawn. Ond mae’r…
429: Tua Bethlehem dref
Mae Daf y gath wedi penderfynu mynd i Fethlehem. Mae hi wedi gweithio allan y bydd y daith yn cymryd sawl diwrnod ar droed. Mae hi’n gobeithio y bydd Dreamies gyda’r angylion. Mae hi’n gobeithio y bydd Dreamies gyda’r bugeiliaid. Mae hi’n gobeithio y bydd Dreamies gyda’r Tri Gŵr Doeth. Mae hi’n disgwyl y bydd…
428: Ysgewyll
Tymor ysgewyll yw e. Mae Daf y gath wedi bod yn bwyta llwythau o ysgewyll, gyda chanlyniadau anochel. Mae hi’n drewi. Mae ei fan hi’n drewi. Drewi yw’r chwarter-siarc, hyd yn oed. Pam? Peidiwch byth â gofyn pam. Mae’r ardd i gyd yn drewi. – Datganaf fod ysgewyll bellach yn anghyfreithlon, meddai Dewi Sant yn…
427: Yr affwys o dan y sied
Mae’r chwarter-siarc wedi diflannu. Does neb yn gwybod lle mae e. Does neb yn yr ardd yn jyglo. Mae’r Prifdaten wedi diflannu hefyd. Does neb yn gwybod lle mae e chwaith. Does neb yn yr ardd yn gweiddi ar hap. Yn fwy difrifol byth, mae peiriant cwstard Santes Dwynwen wedi diflannu. Mae pawb yn ddiolchgar…
426: Addurniadau
Mae Santes Dwynwen yn addurno’i pheiriant cwstard. Mae peli gwydr a thinsel drosto fe i gyd. Bydd darnau bach o dinsel yng nghwstard Santes Dwynwen am fisoedd. Mae Dewi Sant wedi rhoi torch gelyn ar ddrws ei sied am unwaith. Gwnaiff e fwyta sawl deilen ar ôl meddwi nes ymlaen. Mae’r chwarter-siarc yn jyglo gyda…
425: Ffwlbart y Gogledd
Mae Daf y gath yn dal i fod eisiau gweld y Siôn Corn go iawn. Mae Dewi Sant (wedi’i wisgo fel Siôn Corn) yn dal i fod yn y carchar. Mae hi’n mynd ar daith. Ond mae hi wedi camddeall. Eto. Mae hi’n dychwelyd yng nghwmni ffrind newydd. Anifail hir, tenau yw e. – Pwy…
