Mae Daf y gath a’i chwaer Jeff yn edrych yn ôl dros y flwyddyn flaenorol. – Sai’n teimlo fel cynnal parti, â dweud y gwir, meddai Daf. – Dwi eisoes ‘di câl digon o brofiadau seicedelig ers y Nadolig, a sdim lot i’w ddathlu. – Beth am i ni ganslo’r flwyddyn newydd a mynd ar…
Month: December 2022
443: Gwisg pen
Mae Samuel Beckett wedi dwyn tun rhostio Bryn Terfel ac ymguddio yn y piano eto. Mae hynny yn meddwl nad oes gan Bryn Terfel ddim gwisg pen ysblennydd i’w wisgo i’r parti Blwyddyn Newydd. Mae Bryn Terfel yn drist iawn, iawn. – Allet ti roi hwn ar dy ben, meddai Daf y gath, yn pwyntio…
442: Rhostio bananas
Mae Bryn Terfel wedi dychwelyd i’r ardd. Mae e’n dal i wisgo tun rhostio fel het ysblennydd. Ond mae problem. Mae Bryn Terfel am rostio bananas, ond tasai fe’n defnyddio’r tun rhostio, byddai fe’n colli ei het ysblennydd ef. – Mae het arall draw fan hyn, awgryma Daf y gath. – Beth am honna? –…
441: Rhagor o benpedogion
Toc wedi pump o’r gloch, dyma Jeff y gath yn llusgo rhyw bethau eraill i’r ardd. Mae Dewi Sant heb gael gwared ar y sgwid anferth eto, ond dyma Jeff yn dod ag octopws a chwpl o ystifflogod newydd. Mae’r ystifflogod eisoes wedi marw. Maen nhw’n drewi. Ond mae’r octopws yn dal i fod yn…
440: Anghofio
Mae Dewi Sant eisiau anghofio’r Nadolig hwn. Mae’r Nadolig wedi bod yn gatastroffig. Gwnaeth yr Esgob droi lan, wedi ei wisgo fel y baban Iesu. Daeth ei deulu i’w ymweld ag e, ac fe redodd allan o win tra bod y siopau ar gau. Yna daeth Jeff â sgwid anferth i’r ardd, sydd nawr yn…
439: Sgwid anferth
Mae Jeff y gath wedi bod yn hela. Mae hi’n un da iawn am hela. Fel arfer mae hi’n dal adar bach, neu lygod. Mae hi’n hoffi eu taflu nhw i’r awyr. Ond heddiw mae hi wedi dal rhywbeth gwahanol. Does neb yn gwybod sut, ond mae hi wedi dal sgwid anferth. Cymaint â bws…
438: Teulu
Amser teulu yw amser Nadolig. Mae Dewi Sant yn cuddio rhag ei rieni yn ei sied e. Mae e’n gwrthod dod allan. Mae deg awr wedi bod ers i dad Dewi ddechrau cwyno am bobl ifanc, am y sefyllfa wleidyddol, ac, wrth gwrs, Dewi ei hun. Mae tad Dewi heb dderbyn diod, hyd yn oed….
437: Gormod
Mae pawb yn yr ardd wedi bod yn gwledda. Mae Dewi Sant wedi yfed gormod o win, yn ôl ei arfer. Mae e wedi pasio mas yng ngwely’r rhosod. Mae Santes Dwynwen wedi bwyta gormod o dwrci. Dyw hi ddim yn gallu cau botymau ei gasog bellach. Mae Jeff y gath wedi cymryd gormod o…
436: Baban
Mae baban newydd ymddangos yn yr ardd. Am wyrth! Dyma dri dyn doeth gydag anrhegion. Dyma Mari, y gaseg lwyd, yn mynd allan i grwydro o gwmpas. Dyma gyfreithiwr. O na. Mae’r cyfreithiwr yn siarad â Dewi Sant. Mae’n debyg taw mab Dewi Sant yw’r plentyn. Nid yw Dewi’n cofio dim byd. Mae e wedi…
435: Twrci
Mae’n noswyl Nadolig. Mae’r siop cigydd ar agor yn gynnar iawn. Yn nhawelwch oriau mân y bore, mae rhywbeth yn nesáu. Dyma Daf y gath. Roedd Dewi Sant i fod i nôl y twrci, ond pasiodd e mas toc wedi hanner nos. Dyw Santes Dwynwen ddim yn llawer o help chwaith. Fe gafodd hi gwpl…
