Mae Jeff yn dioddef. Mae llawer o chwain arni. Mae hi’n cuddio a chrafu. Mae syniad gyda Dewi Sant. Ar ôl tanio ffag, mae e’n arllwys cynhwysion potel o gwrw dros Jeff. Mae Jeff yn stopio cosi. Mae hi’n stopio crafu. Mae hi’n dechrau llyfu ei hun. – Mae gyda fi flas, meddai Jeff. Saesneg…
Month: April 2022
Dŵr o’r nant
Mae Jeff wedi bod yn yfed dŵr o’r nant. Mae’r nant yn fudr. Mae’n well gyda Daf yfed dŵr glân o’r sinc, ond mae Jeff yn hoffi dŵr budr. Yn anffodus mae chwain ger y nant. Ar ôl yfed, mae Jeff yn hoffi rholio o gwmpas. Yn anffodus, mae hynny’n meddwl ei bod hi’n rholio…
Bore da, Draig
– Bore da, Draig. – Bore da, Daf. Draig dw i. Ci dw i. Bachgen da dw i. – Hapus dw i. – Pam? – Dw i wedi cael fy mrecwast i. Dw i wedi cael saith brecwast. – Ga i frecwast hefyd? Ga i? Ga i? Ga i? Mae Draig y ci yn fachgen…
Ymddiswyddiad
Mae Daf y gath yn ymddiswyddo. Mae hi wedi cael llond bol o’i chwaer. Mae hi wedi cael llond bol o Dewi Sant a’i sied. Ac mae hi wedi cael llond bol o bobl sy’n meddwl ei bod hi’n dwpsen. Mae hi wedi pacio ei bag, ac mae hi’n paratoi i adael yr ardd. –…
Dim brecwast
Mae Jeff wedi blino. Aeth hi allan neithiwr, a doedd hi ddim yn dod yn ôl tan saith y gloch yn y bore. Mae hi mor flinedig, mae hi’n mynd yn syth i gysgu. Dyma frecwast Daf. Dyma frecwast Jeff. Mae Daf yn bwyta’r ddau ohonyn nhw, wrth i Jeff yn cysgu’n sownd. – Cygu-bais,…
Peiriant Gobenyddion
Mae Dewi Sant yn deffro, a gweld peiriant anferth newydd yn yr ardd. Mae’r tatws yn cwyno am y sŵn, ond mae pawb arall yn gwylio mewn cymysgedd o ddiddordeb ac arswyd. Mae Daf y gath yn sefyll wrth ochr y peiriant. Mae’r Archfadarch yn gwasgu botwm. Mae braich yn dod allan o’r peiriant a…
Menter Fflwff
Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd. Mae hi’n casáu cael ei brwsio. Ond mae hi’n hoffi ennill arian yn fawr iawn. – Jeff, meddai Daf i’w chwaer, – Beth am i ni werthu ein fflwff ar ôl i ni gael ein brwsio? – Pwy sydd eisiau fflwff? meddai Jeff. – Fe…
Fflwff
Mae fflwff ym mhobman. Mae fflwff yng nghwstard Santes Dwynwen. Mae’r hanner-siarc yn jyglo peli o fflwff. Mae fflwff yn glynu wrth selsig Franz Kafka. Mae fflwff dros boteli cwrw Dewi Sant. Mae fflwff dros y tatws. Mae fflwff dros y madarch. Mae popeth yn boddi mewn fflwff. – Am grafiad da, meddai Daf y…
Menter Gorchuddio
Un tro, roedd Daf y gath yn meddwl am weithgareddoedd Dewi Sant, yn enwedig yr adeg wnaeth e orchuddio’r lawnt â saws tartar. Yna, caeth Daf syniad. Beth am fenter newydd er mwyn gwneud bach o arian? Fe allen nhw cynnig gwasanaeth gorchuddio lawnt. Gallai lawntiau pobl yr ardal gael eu gorchuddio â saws tartar,…
Saws Tartar
Un tro, doedd gan Daf y gath dim syniad am fenter newydd. Roedd ei Menter Drysu yn eitha aflwyddianus; heblaw am Dewi Sant, ni roddodd neb ddim byd iddi ar ôl iddyn hwythau weld Franz Kafka mewn blwch llawn o gwstard. Fel mae’n digwydd, roedd y darn pump ceiniog a roddwyd iddi gan Dewi yn…
