Un tro, roedd Daf y gath yn meddwl am weithgareddoedd Dewi Sant, yn enwedig yr adeg wnaeth e orchuddio’r lawnt â saws tartar.
Yna, caeth Daf syniad. Beth am fenter newydd er mwyn gwneud bach o arian? Fe allen nhw cynnig gwasanaeth gorchuddio lawnt. Gallai lawntiau pobl yr ardal gael eu gorchuddio â saws tartar, dail, selsig Franz Kafka ac ati, am ffi bach.
– Paid bod yn ridiculous, meddai Jeff, ar ôl i Daf sôn am y peth. – Pam nag wyt ti’n gallu ymgeisio am swydd fel pawb arall?
– Achos fy mod i’n gath, meddai Daf yn pwdu.