“Roedd y panel yn synnu at dderbyn ymgais wedi’i ysgrifennu ar bac o selsig. Dyna ddatblygiad newydd. Mae’r awdur hwn yn amwlg yn brofiadol iawn – doedd dim bratiaith – ond erbyn diwedd ei ddarn, roeddem yn hapus iawn i gydymffurfio gyda’i gyfarwyddiadau, a llosgi’r peth i ulw. Rydym wedi colli gobaith yn gyfan gwbl.”
Month: February 2022
Ymgais Franz Kafka (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 5)
Y Gystadleuaeth Lenyddol, gan Franz Kafka Roedd yr awyr yn llwyd, ac roedd y planhigion i gyd wedi marw. Dechreuais lenwi’r ffurflen ar gyfer y gystadleuaeth lenyddol. Roedd y ffurflen yn un hir, ddiflas. Collais obaith ac agor pac o selsig. Anfonais y ffurflen at yr Esgob. Daeth hi’n ôl. Roedd camgymeriadau arni. Tro ar…
Dydd Miwsig Cymru
– Daf, meddai Jeff y gath wrth iddi orffen bwyta selsig. – Tisie canu rhywbeth ar gyfer Dydd Miwsig Cymru? – Nadw, atebodd Daf, heb ddiddordeb. – Ond cer amdani os tisie. – Iawn. Dwi di neud fersiwn sbesial o Sosban Fach i ti. Dechreuodd Jeff ganu. Mae brêns Dewi Sant wedi pydru A Dafydd…
Adolygiad y Panel o Gais Draig (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 4)
“Synnwyd y panel gan y cais hwn. Amlwg yw e bod yr awdur yn siarad ffurf ofnadwy o fratiaith, ac amlwg yw e hefyd dos dim llawer yn ymlaen yn ei ben ef. Yn lle ysgrifennu stori, mae’r awdur hwn wedi creu rhyw fath o gri am help. Nid oeddem yn hollol sicr pwy ydy’r…
Cais Draig y Ci (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 3)
Y Gystadleuaeth Lenyddol, gan Draig y Ci draig dw i ci dw i bachgen da dw i bachgen da dw i plis taflwch y bêl plis plis dwi’n caru ti dwi’n caru pawb bachgen da dw i un tro ma Draig sef fi yn swgennu cais ar gyfer cystadleuaeth lenyddol dwi ond yn neud cais…
Telerau ac Amodau (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 2)
Yn yr ardd, roedd Daf y gath yn darllen telerau ac amodau’r gystadleuaeth lenyddol. Mae’r gystadleuaeth yma yn cael ei threfnu gan yr Esgob. O na, meddyliodd Daf. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb sy’n siarad Cymraeg – pobl, cathod, llysiau ac yn y blaen. Da iawn, meddyliodd Daf. Gall hyd yn oed Draig y…
