Un tro, roedd Draig y ci’n chwarae gyda Mistar Penglog, ei degan gwichlyd, pan ymddangosodd y Prifdaten a’u tharfu nhw. Roedd e’n grac, fel arfer. – DOES DIM LLAWER O DDISGYBLAETH YMA, bloediodd y Prifdaten. – Bachgen da dw i, meddai Draig, yn chwifo ei gynffon. – Draig dw i. – GORFOD PWYSLEISIO’R DDISGYBLAETH, parhaodd…
Month: October 2021
Ar y Radio
Un diwrnod, roedd Jeff y gath yn gyffrous. – Daf, Daf, dw i’n mynd i fod ar y radio! – Go iawn? – Go iawn. Cerddodd ling-di-long tuag at hen radio enfawr a oedd tu allan i’r sied Dewi Sant. Roedd e’n chwarae cân gan Datblygu. Neidiodd ar ei ben. – Drycha, dw i ar…
Plymio – rhan 3
Aeth y drewdod a oedd yn dod o sied Dewi Sant o ddrwg i waeth. Roedd y madarch yn cysgodi o dan y ddaear, tra oedd Santes Dwynwen yn rhedeg o gwmpas yr ardd mewn arswyd. Erbyn hyn, roedd hyd yn oed ei chwstard wedi dechrau blasu o’r pydredd. – O na, meddai Dewi Sant,…
Plymio – rhan 2
Treuliodd Daf y gath sawl diwrnod ar y ffôn, ond, o’r diwedd, daeth plymwr o’r cwmni yswiriant. Hen ddyn heb ddannedd oedd e, gyda chap pêl-fas, a golwg methedig arno. Baglodd i fewn i sied Dewi Sant. – Mae popeth yn drewi, meddai’r plymwr. – Ydy, atebodd Daf, – Dyna be’ wedes i ar y…
Plymio – rhan 1
Roedd Jeff y gath wedi aros sawl dydd am rif ffon plymwr. Hi oedd wedi anfon y llythyr olaf wrth y Corinthiaid; er bod sied Dewi Sant yn drewi ar ôl ymweliad yr esgob a’i goludd, roedd Dewi wedi meddwi’n ormod i sylwi. Daeth panasen Kafka draw. – Alla i helpu? gofynodd y panasen. –…
Panasen Kafka
Roedd Franz Kafka wedi bod yn tyfu llysiau mewn cornel o’r ardd, ac roedd e’n falch iawn o’r canlyniadau. Roedd bron popeth wedi troi’n frown, heblaw am banasen enfawr a gwrden rownd ymhlith y pydredd cyffredinol o blanhigion wedi marw. Golygfa prydferth yr oedd e, ar ei ôl. – Beth yw hwnna, meddai Daf, yn…
Ail Lythyr Dewi Sant at y Corinthiaid
Annwyl Corinthiaid, Daeth yr esgob draw fan hyn wythnos diwetha, yr hen ynfytyn. Yn anffodus mae hynny yn golygu y bydd rhaid imi ail-wneud y plymio trwy’r sied yn gyfan gwbl. Fyddet ti ddim yn dychmygu y gallai coludd un dyn yn achosi cymaint o lwgr, a phan ddechreuodd popeth ollwng – ond byddai’n well…
Yr Arboretwm
Un tro, roedd Jeff y gath yn garddio. – Daf, meddai hi, – Dere fan hyn. Mae gen i arboretwm! Cododd Daf ael. – So hwnna’n arboretwm, meddai Daf, heb ddiddordeb. – Wel, coedwig ‘te. – Potyn o chwyn yw e, meddai Daf yn wfftiol, a bant â fe i weld yr Archfadarch. Cuddiodd Franz…
Ymweliad Cyntaf yr Esgob
Daeth yr esgob i ymweld â Dewi Sant. Doedd e ddim yn hapus o gwbl. Eisiau gwybod pam nad oedd eglwys newydd gyda fe eto yr oedd e, heb sôn am y sied ac yr yfed. Rowliodd Dewi Sant sigarèt a dweud dim byd. Edrychodd ar yr esgob â ddirmygiaeth bur. – Shwmae, meddai Jeff…
