Roedd hi’n Galan Gaeaf ac yr oedd pawb yn gyffrous. Peintiai Franz Kafka ei selsig yn ddu, hyd yn oed. – Cast neu geiniog! dwedodd Jeff y gath wrth yr Archfadarch. Roedd hi’n gwisgo amdo, er mwyn esgus bod yn ysbryd. – Cast! meddai’r Archfadarch, gan wneud i’w bwyd hi ddiflannu. – NID Y MATH HWNNA…
Month: October 2021
Slyri
Un tro, ymddangosodd Prif Weinidog Lloegr yn yr ardd. Gadewch i ni’i alw ef yn “Joris Bonson” gan oedd hwnnw bron ei enw. Fel mochyn penfelen yr oedd e, yn anllatgras ac yn angharedig. Ciciodd Keith y gwrden druan, ac yr oedd ar fin ceisio sediwsio’r Frenhines Branwen yn ei ddull seimllyd, pan heriodd Daf…
Pwmpen
Fe gerfiai Jeff y gath ei phwmpen i Galan Gaeaf gyda’i ewinedd pan ddaeth Daf draw i weld beth oedd yn digwydd. – Be ti neud? gofynnodd Daf iddi. – Cerfio neges. Neges bwysig iawn, atebodd Jeff. Smerodd Daf rownd i ochr arall y pwmpen, heb frys. Roedd Jeff wedi cerfio’r gair “COFIWCH” yn barod,…
Hyfforddiant Santes Dwynwen
I ffwrdd o’r ardd, roedd Santes Dwynwen yn derbyn ei hyfforddiant ar hylifau hudolus gan angylion yr ardal. Eistedd mewn dosbarth yr oedd hi, gyda sawl gwrach, brenin o dramor, ac arth anferth o’r enw Mordey. Roedd golwg dychrynllyd ar yr ardd, ond oedd e’n gweithio’n dawel ar ei destiwbiau a cynhwysodd rhywbeth gwyrdd, drewllyd….
Bant
Un tro, roedd Santes Dwynwen wedi gadael yr ardd am sbel, er mwyn cael bach o hyfforddiant. Roedd hi wedi gofyn i ychydig o angylion ddysgu iddi wneud rhywbeth gwahanol i’w chwstard cariad. Yn ddiweddar, nid oedd yr hylif hudolus hwnnw wedi bod yn gweithio’n ogystal ag o’r blaen. Welodd y cathod mo’i adael. –…
Menter Idiomatig Daf
Un tro, roedd Daf y gath yn gwylio Keith y gwrden, a oedd yn gwneud dim byd. Gwneud pethau, gan amlaf, oedd yn groes i’w natur, ond weithiau byddai’n synnu pawb wrth gwneud rhywbeth rhyfeddol. Fel methu symud chwarter modfedd. – Be’ ti neud, Keith? gofynnodd Daf. – Dim byd, meddai Keith. – Yn ôl…
Y Gwacter
– Daf, Daf, dere ‘ma, meddai Jeff y gath un diwrnod. – Be ti isie? gofynnodd Daf y gath. – Dwi ‘di creu gwacter draw fan ‘na rhywsut. Amneidiodd Jeff ar wely llysiau Franz Kafka, lle’r oedd gwacter o anobaith rhwng dau blanhigion wedi marw. Roedd y gwacter yn un du, dychrynllyd. – Shwt nath…
Amser dawel
Mae Daf y gath wedi blino. Dim ond bach o amser dawel y mae e eisiau. Mae Keith y gwrden wastad yn dawel. Yn dew ac yn rownd mae e, ac all e ddim symud. Mae Daf y gath yn mynd i eistedd wrth ochr Keith. – Shwmae, Keith, meddai Daf, mewn sibrwd. – …
Diwrnod Shwmae Sumae
“Diwrnod Shwmae Sumae” yw hi. Dyma’r cathod, yn cysgu yn yr ardd. Does dim ots gyda nhw am unrhyw beth ieithyddol heddiw. “Shwmae!’ meddai Franz Kafka. Mae e’n frwdfrydig am unwaith. “Gad i fi fod,” meddai Daf y gath, gan lyfu ei draed. “Shwmae!” meddai Dewi Sant. Mae fe wedi bod yn yfed. “Gad i…
Angladd yr Hen Prifdaten
Un tro, roedd Daf y gath yn cael profiad seicedelig ar ben y bin. Roedd yr heulwen yn brydferth, ac roedd y pilipalas ym mhobman yn yr ardd, ac yn ei ymennydd ei hun. Gan amlaf, byddai Jeff y gath yn osgoi edrych ar y tatws. Roedd hi’n bywsig iawn i beidio dal eu llygaid,…
