Gwnaeth y Prifdaten cyhoeddiad pwysig. Mae’r Prifdaten wedi ad-drefnu’r ardd. Mae Dewi Sant wedi colli ei swydd fel Ysgrifenydd Diodydd, a bydd bellach yn Weinidog heb Eglwys. Mae Santes Dwynwen yn olynu bwced o faw fel Weinidog Ffrwythlondeb. Mae Daf y Gath wedi colli ei swydd fel Ysgrifenydd Dosbarthiadau, a wedi cael ei benodi fel…
Month: September 2021
Cefn Tost Dewi Sant
Dihunodd Dewi Sant â chefn tost arno. Ceisiodd symud o gwmpas ei sied, ond oedd popeth yn wneud dolur iddo. Daeth y cathod i “helpu”. – Ffisiotherapwyr dych chi? gofynnodd Dewi Sant. – Wel, nac ydyn, ond we ni’n meddwl y byddai’n bach o hwyl i drio, meddai Daf, heb unrhyw sensitifrwydd. – Shwt ddechreuodd…
At yr Optegydd – rhan 2
Dychwelodd y cathod o siop yr optegydd, wedi ceisio osgoi’r holl beth. Gyraeddasant yr ardd a neidio allan o fan Daf. – Ble mae’r bwyd? Ble mae’r staff? bloediodd Jeff. – Mae’r staff wedi mynd, atebodd Daf. – So fi’n gallu gweld dy bowlen, wyt ti? – Nagw. Os na wna i ffeindio fy mowlen…
Y Dosbarthiad
Dihunodd Dewi Sant yn hwyr. Roedd e wedi cael noson hir o ddiodydd cryfion gyda Santes Dwynwen, a oedd nawr yn anymwybodol mewn cornel o’r ardd. Agorodd drws ei sied a gweld pentwr mawr o focsys. – Be’ sy’…? meddyliodd, cyn iddo weld amlen. Dechreuodd ddarllen. Annwyl Dewi, Diolch am eich llythyr, a oedd bach…
Llythyr Cyntaf Dewi Sant at y Corinthiaid
Annwyl Corinthiaid, Gobeithio’ch bod chi wedi cael gwyliau neis. Plis anfonwch bwyd cath, fel mater o frys. Diolch yn fawr iawn, Dewi (Sant) [bg_collapse view=”link” color=”#4a4949″ expand_text=”Saesneg / English” collapse_text=”Hide” ] Saesneg / English Saint David’s First Letter to the Corinthians Dear Corinthians, Hope you had a nice holiday. Please send cat food as a…
Y Llygoden
Lle mae Jeff yn dihuno’r staff gydag anrheg bach. Un tro, am bump o’r gloch y bore, roedd popeth yn dawel. Tywyll oedd hi, a doedd yr adar ddim wedi dechrau canu eto. Cysgu’n sownd yr oedd y staff. Daeth Jeff y gath calico i’r drws ffrynt. – GAD FI MEWN, bloediodd, drosodd a throsodd…
Y Sosban
…lle mae cymeriad newydd yn cyrraedd, ac mae Jeff yn rhoi nhw ar dân. Roedd y hanner-siarc yn brysur yn jyglo pan ddaeth sosban i mewn i’r ardd. Edrychodd Daf y gath arni mewn syndod. Sosban fach, bert oedd hi, a chanu cân gwerin mewn llais soprano ysgafn. – Helo, meddai’r sosban, yn hapus. –…
Mae Daf eisiau chwarae
Dyma Daf y gath sinsir. Mae e wedi cael ei fwyd e, ac nawr mae Daf eisiau chwarae. Mae Daf yn gofyn i aelod staff i chwarae gyda fe. Mae e’n cerdded o gwmpas eu coesau nhw, cyn hela ei gynffon ei hunan. “Dw i eisiau chwarae,” meddai Daf. Mae’r aelod o staff yn taflu…
Rhostio’r Prifdaten
Roedd Daf y gath wedi bod yn gwylio Drag Race gyda’r staff. – Jeff, dere fan hyn, meddai Daf i’w ffrind calico, – beth am i ni rostio’r Prifdaten? – Rhostio fe? – Ie, rhostio fe. Fel ar Drag Race. Mae fe wastod mor ddiflas. Gallen ni wisgo ffrogie ‘fyd. – Sai isie gwisgo ffrog, meddai Jeff. –…
At yr Optegydd – rhan 1
Un tro, roedd Daf y gath yn crwydro o gwmpas yr ardd, pan sylweddolodd y doedd e ddim yn gallu gweld ei bowlen bellach. – O na, meddyliodd, bydd Jeff yn cwyno ymhen munud neu ddwy. Ymhen munud neu ddwy, decheuodd Jeff gwyno. – Sai’n gallu gweld fy mhowlen, meddai. – Ble mae’r staff? –…
