Mae Daf y gath yn yr ardd gyda Jeff, ei ffrind calico. Maen nhw’n trafod dillad. “Bachgen dw i,” meddai Daf, “felly dw i’n gwisgo trowsus.” “Ferch dw i,” meddai Jeff, ac oedi. “Felly dw i’n gallu gwisgo unrhyw beth dw i eisiau.” “Fel het?” “Yn union, fel het.” “Ond does dim het gyda ti.”…
Month: August 2021
Mynd i’r siopau
Dyma Daf. Cath sinsir yw Daf. Mae e’n byw ym mhentre Ffosgoch gyda’i ffrindiau Jeff, sydd yn gath galico, a Draig, sydd yn gi du. Maen nhw’n chwarae gyda’i gilydd mewn gardd hudolus. Un bore Mercher, mae Jeff yn gofyn i Draig: “Dw i’n mynd i’r siopau. Wyt ti eisiau unrhyw beth?” “Nac ydw, diolch,”…
Pwyllgor y tatws
Lle mae Santes Dwynwen yn derbyn darlith. Un diwrnod, roedd Daf y gath yn brysur gwneud dim byd yn yr ardd, pan ymddangosod Santes Dwynwen mewn cymyl o galonnau pinc bach, yn cario powlen o gwstard. – Santes Dwynwen dw i. Wyt ti isie bach o… gwstard cariad? meddai Santes Dwynwen, yn lithiol. – Cwstard…
Englyn Jeff
Lle mae Jeff y gath wedi ysgrifennu englyn. – Daf, Daf, meddai Jeff y gath galico yn gyffrous, – dw i ‘di sgwennu englyn penfyr. – Pam yn y byd fyddet ti ‘di neud hwnna? meddai Daf, yn flinedig. – Ti’n gath, wedi’r cyfan. – Ti’n barod? – Iawn, atebiodd Daf, heb ddiddordeb. – Beth…
Daf yn ceisio dysgu cyfrif
Roedd Daf y gath yn yr ardd, yn eistedd ger y sied lle’r oedd Dewi Sant nawr yn byw. Daeth llais Dewi Sant o gymyl o fwg. – Byddai’n well ‘da ti ddysgu shwt i gyfri, ‘ngath annwyl i. – Pam yn y byd fyddwn i isie neud hwnna? gofynnodd Dave, yn anargyhoeddedig. – Mae’n…
Cyrhaeddiad Frenhines Iwerddon
Roedd Daf y gath yn meindio ei fusnes ei hunan yn yr ardd, ar brynhawn llwyd, tra bod Dragon y ci’n cyfarth ar y wiwerod. Yn sydyn, daeth menyw grand trwy’r gât, a oedd golwg pryderus arni. Roedd hi’n gwisgo ffrog gain iawn. – Pwy dych chi, ‘te? meddai Daf, heb ddiddordeb. – Y FRENHINES…
Enwau cyfan
Dychwelodd Daf y gath i’r ardd ar ôl bore hir o ddosbarthiadau yn ei fan. Dim ond blwch cardbord oedd e mewn gwirionedd, ond o ganlyniad yr oedd e’n ysgafn, yn gyflym ac yn effeithlon. A llawn dop â gwallt sinsir. Gweiddi ar y staff am bwdin oedd Jeff, ei ffrind calico, unwaith eto, tra…
Ymweliad cyntaf Dewi Sant
Daeth Dewi Sant i’r ardd i ymweld â Daf y gath, a oedd yn ymolchi ei draed. – Pwy dych chi, ‘te? gofynnodd Daf. – Dewi Sant dw i, meddai Dewi Sant, yn tynnu’n dwfn ar ei sigarèt. Roedd croen ei wyneb yn llwyd ac yn rhychiog, a’i ddillad yn hen iawn. – So chi’n…
Daf a’r Ddraig – rhan 6
Chwibanodd yr Archfadarchen, a daeth sawl madarchen arall mas o’r ddaear. Roedd pennau coch gyda nhw, ac roedden nhw i gyd yn cario offer dirgel wrth iddyn nhw canu cân am gwstard. – Dan nhw wedi bod yn gwrando arnon ni? gofynnodd Jeff. – Nac ydyn, mae obsesiwn mawr â chwstard gyda nhw ‘fyd. –…
Daf a’r Ddraig – rhan 5
Rholiodd Daf sigarèt catnip a chaeth brofiad seicedelig tra bod Jeff yn mynd i siarad â’r madarch. Crafodd hi ar y ddaear drosodd a throsodd. Ymddangosodd arweinydd y madarch a oedd golwg dan straen arno. Efallai’r oedd e wrthi’n gwneud rhywbeth pwysig iawn. – Beth ar y ddaear yw eich meddwl? meddai’r madarchen, wrth wgu….
