“Synnwyd y panel gan y cais hwn. Amlwg yw e bod yr awdur yn siarad ffurf ofnadwy o fratiaith, ac amlwg yw e hefyd dos dim llawer yn ymlaen yn ei ben ef. Yn lle ysgrifennu stori, mae’r awdur hwn wedi creu rhyw fath o gri am help. Nid oeddem yn hollol sicr pwy ydy’r…
Category: Y Gystadleuaeth Lenyddol
Cais Draig y Ci (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 3)
Y Gystadleuaeth Lenyddol, gan Draig y Ci draig dw i ci dw i bachgen da dw i bachgen da dw i plis taflwch y bêl plis plis dwi’n caru ti dwi’n caru pawb bachgen da dw i un tro ma Draig sef fi yn swgennu cais ar gyfer cystadleuaeth lenyddol dwi ond yn neud cais…
Telerau ac Amodau (Y Gystadleuaeth Lenyddol, rhan 2)
Yn yr ardd, roedd Daf y gath yn darllen telerau ac amodau’r gystadleuaeth lenyddol. Mae’r gystadleuaeth yma yn cael ei threfnu gan yr Esgob. O na, meddyliodd Daf. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb sy’n siarad Cymraeg – pobl, cathod, llysiau ac yn y blaen. Da iawn, meddyliodd Daf. Gall hyd yn oed Draig y…
Menter Cystadlu
Un tro, roedd Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd er mwyn ennill bach o arian. – Jeff, drycha, meddai, yn dangos taflen iddi, – Mae ‘na gystadleuaeth lenyddol eleni. Rhaid i ni gyd sgwennu rhywbeth. Hanner can punt a blwch o greision ŷd yw’r wobr. Rholiodd Jeff ei llygaid. – So fi’n…
