October 16, 2024

Mae Daf y gath yn ymddiswyddo. Mae hi wedi cael llond bol o’i chwaer. Mae hi wedi cael llond bol o Dewi Sant a’i sied. Ac mae hi wedi cael llond bol o bobl sy’n meddwl ei bod hi’n dwpsen.

Mae hi wedi pacio ei bag, ac mae hi’n paratoi i adael yr ardd.

– Beth wyt ti’n wneud? meddai Jeff.

– Dw i’n gadael, meddai Daf. – Does dim byd ar ôl i fi fan hyn.

– Dw i’n siwr dy fod ti wedi gwneud hyn o’r blaen. Ga i dy frecwast, ‘te? meddai Jeff yn obeithiol.

– Cei. Ta ta, meddai Daf, a bant â hi.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.