October 16, 2024

Un tro, doedd gan Daf y gath dim syniad am fenter newydd.

Roedd ei Menter Drysu yn eitha aflwyddianus; heblaw am Dewi Sant, ni roddodd neb ddim byd iddi ar ôl iddyn hwythau weld Franz Kafka mewn blwch llawn o gwstard. Fel mae’n digwydd, roedd y darn pump ceiniog a roddwyd iddi gan Dewi yn un ffug beth bynnag.

Felly, sut i ennill bach o arian?

Wrth i Daf bendroni, ymddangosodd Dewi Sant, a orchuddiodd y lawnt â saws tartar. Y math hwnnw o ddiwrnod oedd hi.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.