
Mae Daf y gath wedi bod ar ei gwyliau yng nghwmni ei chwaer, Jeff.
Ble aethon nhw?
Aethon nhw i’r gwesty cathod.
Oedd Samuel Beckett yn dal i fyw mewn un o’r cabanau?
Oedd. Mae e’n hoff iawn o fannau cyfyng, wedi’r cyfan. Yn anffodus, roedd fflap cathod rhwng caban Daf a Jeff a chaban Samuel Beckett, felly ceisiai Beckett ddwyn eu Dreamies nhw, er mwyn mynd ar daith seicedelig i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.
O diar.
Oedd ‘na ddigon o Dreamies i bawb?
Oedd, diolch byth. Felly bant â nhw i’r Crymych Arall gyda’i gilydd.