
Mae Archesgob newydd yn yr archesgobaeth. Ac mae e wedi penderfynu ymweld â’i braidd.
Doedd Dewi Sant ddim yn ymwybodol bod yr hen Archesgob wedi mynd, ond eto i gyd mae e wedi cuddio ei boteli o frandi a’i sigarennau rhag ofn iddyn nhw gael eu cymryd oddi arno. Mae Santes Dwynwen wedi bod yn gwneud cwstard arbennig ar gyfer yr achlysur.
Ydy’r Archesgob newydd yn mynd i ymyrryd yn yr isetholiad?
Ydy!
Bydd rhaid i Daf y gath a Baijel Garej dynnu’n ôl. Bydd Santes Tudful yn cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan bellach.
Mawredd yr adar.
Mae’r Archesgob wedi gorchymyn i Daf y gath ddweud llwyth o Henffych Fair a gweddi’r Arglwydd.
Ond dyw Daf ddim yn nabod y geiriau.