
Mae Daf y gath yn hoff iawn o syniad Santes Dwynwen o sefydlu Siop Gwstard yn y pentre.
Ydy pawb wedi anghofio am yr anrhefn a achoswyd gan Julian Pope yn y Fatican? Ydy. Mae cwstard yn llawer pwysicach.
Ydy Daf yn dal i chwilio am y grŵf? Nac ydy.
Ble mae Dewi Sant a’r enwog Bryn Teribl?
Mae Santes Dwynwen wedi eu gwerthu nhw i’r cyfalafwyr mentro a brynodd Owain Glyndŵr.
‘Ta beth, mae Santes Gwladys wedi cyrraedd, ac mae ganddi rysáit gwstard arbennig sy’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Tywyll.
— Beth yw’r cynhwysion? gofyn Daf y gath.
Mae Santes Gwladys yn sibrwd i glust Daf.
— Mowredd, medd Daf.