
Mae Daf y gath yn sefyll yn ansefydlog yng nghanol Caerafa yng nghwmni’r enwog Julian Rope, sef y Gwrthbab.
Mae hi eisiau gofyn iddo a oes ganddo’r grŵf, ond mae hi mor feddw oherwydd tabled goch Giuseppe y siaman, all hi ddim siarad.
O diar.
Pwy yw’r dyn draw fan acw sy’n rhoi cwtsh i hen garreg enfawr?
Dyma Dewi Sant, sydd ar ei wyliau. Yn ddiarwybod i bawb, mae e wedi pacio bag a mynd ar daith yn Ne Lloegr.
Fydd hi’n bosib i Dewi sobri Daf y gath?
Na fydd. Mae Dewi Sant off ei ben hefyd.
Mae Julian Rope yn clymu Daf a Dewi ynghyd â hyd o raff er eu diogelwch eu hunain a’u gadael yn y cylch cerrig.
Fydd y grŵf yn ymddangos iddyn nhw dros nos?
Pwy a ŵyr.