Am eiliad mae Daf yn credu ei bod hi’n ôl yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel.

Mae Daf y gath wedi cymryd un o dabledi coch Giuseppe y siaman, er mwyn trio dod o hyd i’r grŵf ar daith fewnol.

— Sdim byd yn digwydd, medd Daf wrth Giuseppe, wrth iddi doddi a diflannu mewn cwmwl amryliw.

Mae hi’n teimlo ei hun yn cwympo, cyn glanio mewn swp.

Am eiliad mae Daf yn credu ei bod hi’n ôl yn y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, ond mae hyn yn teimlo’n wahanol rywsut.

Does dim tiwtoriaid Cymraeg, am un peth.

Mae Daf ar waelod clawdd gwelltog enfawr. Uwch ei phen mae hi’n gweld meini hirion.

Mae hi yng Nghaerafa!

Ac fel mae pob un gath seicedelig yn gwybod, dyna’r lle gorau i weld yr enwog Julian Cope yn ei gynefin naturiol. Efallai bod ganddo’r grŵf.

Ond… arhoswch am eiliad. Onid yw’r enwog Julian Cope yn gweithredu fel pab Julian Pope yn y Fatican o hyd?

Ydy.

Felly pwy yw’r dyn barfog yma sy’n gwisgo cot ledr â hyd o raff fel gwregys?

Dyma Julian Rope, y Gwrthbab.

Mawredd yr adar. Mae Daf y gath, dan ddylanwad y dabled goch, yn gweld o leiaf chwech ohono.

Oes ganddo fe’r grŵf?

Gadewch i ni ffeindio mas tro nesa.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.